Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRUFFYDD ap IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN ( c. 1485 - c. 1550 ), bardd ac uchelwr ; yr oedd yn byw yn Llannerch , Llewenni Fechan , gerllaw Llanelwy .

Cyhoeddodd J. C. Morrice Detholiad o Waith Gruffydd ab Ieuan ab Llewelyn Vychan a gasglwyd o wahanol lawysgrifau yn y British Museum ( Bangor , 1910 ) a rhoes beth o hanes y bardd ; ceir cyfeiriadau at lawysgrifau eraill yn y llyfryddiaeth (isod). Ceir gan T. A. Glenn yn ei lyfr a enwir The Family of Griffith of Garn and Plasnewydd in the County of Denbigh … ( London , 1934 ) lawer o fanylion am fywyd Gruffydd ap Ieuan wedi eu casglu o ddogfennau teulu Griffith (disgynyddion Gruffydd ap Ieuan ) ac o ffynonellau eraill; y mae Glenn yn cywiro rhai pethau a gyfrifai ef yn wallau yn rhagymadrodd J. C. Morrice .

Ar wahân i'w farddoniaeth y mae i Gruffydd ap Ieuan bwysigrwydd oblegid ei gysylltiad ag eisteddfod gyntaf Caerwys ac â llawysgrif y dywedodd yr esgob Richard Davies [q.v.] ei bod yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg o Bum Llyfr Moses . Yn eisteddfod gyntaf Caerwys ( 1524 ) bu ef a'r bardd Tudur Aled [q.v.] yn cynorthwyo tri chomisiynwr , sef Richard ap Howel ap Ieuan Fychan , Mostyn , sir Fflint (tad-yng-nghyfraith Gruffydd ap Ieuan ), Syr William Gruffydd o'r Penrhyn , sir Gaernarfon (tad-yng-nghyfraith Thomas Mostyn , mab Richard ap Howel ), a Syr Roger Salusbury , Llewenni , yn yr ‘eisteddfod’ a gynhaliwyd er mwyn ‘graddio’ ac ‘urddo’ beirdd , etc.

Am hanes y llawysgrif o Bum Llyfr Moses a welodd yr esgob Richard Davies yn nhŷ ‘hen ewythr’ iddo ( William Salesbury sydd yn dywedyd mai Gruffydd ap Ieuan oedd yr ‘hen ewythr') gw. y llyfr gan D. R. Thomas y cyfeirir ato (fel rheol) o dan y teitl byr — Davies and Salesbury . Cofier nad llawysgrif y Pum Llyfr ydyw'r un yr argreffir detholiad ohoni gan D. R. Thomas , eithr llawysgrif yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg gan Richard Davies (ac yn ei law ef ei hun) o rai o epistolau Paul ; y mae llawysgrif cyfieithiad yr esgob yn cael ei chadw yn Ll.G.C. , er yn parhau i fod yn eiddo pennaeth teulu Davies-Cooke , Gwysanau , sir Fflint , sydd yn disgyn o deulu Davies , Llannerch , sir Ddinbych , a thrwy'r teulu hwnnw o Gruffydd ap Ieuan ei hunan; y mae llawysgrifau eraill yn Ll.G.C. a ddaeth o Gwysanau ac a fuasai cyn hynny yn Llannerch .

Ceir ach Gruffydd ap Ieuan yn llyfr D. R. Thomas , Lloyd , Powys Fadog , IV, yn Y Cwtta Cyfarwydd , yn llyfr J. C. Morrice , ac yn llyfr T. A. Glenn .

Bu Gruffydd ap Ieuan yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Janet ( Sioned ) , merch Richard ap Hywel , Mostyn ; merch o'r wraig gyntaf oedd y brydyddes, ‘ Ales ferch Gruffydd ab Ieuan ,’ y cyfeirir ati yn y geiriadur hwn; o'r briodas hon hefyd y deillia teuluoedd Davies ( Llannerch ) a Davies-Cooke ( Gwysanau ) . Yr ail wraig oedd Alice ( Ales ) , merch John Owen Llansantffraid ; o'r ail briodas y daeth teulu Griffith ( Garn a Phlas Newydd ) . Disgrifir prydyddes arall, Catrin , yn ferch Gruffydd ap Ieuan ; gw. nodyn byr arni hi yn y gwaith hwn, sub. nom. ‘ Catrin ferch Gruffydd ab Ieuan ap Llywelyn .'

Am y cysylltiad â theulu Davies ( Llannerch ) a Davies-Cooke ( Gwysanau ) gw. yr erthygl sydd yn delio â'r teuluoedd hynny; am y cysylltiad â Richard ap Howel gw. Lord Mostyn a T. A. Glenn , History of the Family of Mostyn of Mostyn ( London , 1925 ) a'r erthygl yn y geiriadur hwn ar deulu Mostyn ( Mostyn ) .

Llyfryddiaeth:

  • At y cyfeiriadau a roddwyd uchod ychwaneger Jones a Lewis , Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau , a , 1928 ;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 116, 253, 255, 431, 433, 552, 675, 695, 727, 832, 834, 1246-7, 1260, 1553, 1559-60, 2288, 3487, 4710, 5269, 5273, 5283, 5545, 6209, 6471, 6499, 6681, 7191, 9166, 11087, 13064, 13066, 13167, a'r MSS. hyn hefyd (i gyd yn LI.G.C.) — Bodewryd 2, Brogyntyn 2, Cwrtmawr 114, 129, 200, 207, 448, 454, Esgair 41, Llawysgrif Glyn Davies yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2, Gwysaney 25, Swansea 1-3, a Wynnstay 1, 2, 6, 7.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

GRUFFYDD ap IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN ( Bywg. , 297) Newidier ( c. 1485 - c. 1550 ) i ( c. 1485 - 1553 ) Dyddiad ei ewyllys yw 11 Mawrth 1553 , a gwnaethpwyd hi yn Henllan , sir Ddinbych . Fe'i profwyd, 3 Mai 1553 .