GRUFFUDD ap DAFYDD FYCHAN (15fed ganrif), bardd

Enw: Gruffudd ap Dafydd Fychan
Plentyn: Owain ap Gruffudd ap Dafydd Fychan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

O Dir Iarll ym Morgannwg. Ef, yn ddiau, yw'r gŵr, 'Gruffudd mydrydd a enwir gŵr o Fetws Tir Iarll,' y ceir ei achau gan G. T. Clark (Limbus Patrum). Cadwyd nifer o'i gywyddau, ac yn eu plith farwnad i Harri VI, nifer o gywyddau brud, a thri chywydd serch; ceir hefyd y ddau gywydd a ganodd Llywelyn Goch y Dant ac yntau pan welsant farwnad Hywel ap D. ap Ieuan ap Rhys i Ieuan ap Hywel Swrdwal. Ymddengys mai mab iddo yw'r Owain y ceir ei ddau englyn i gwyno marwolaeth Tudur Aled yn Peniarth MS 77 (319)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.