Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GROVE , Syr WILLIAM ROBERT ( 1811 - 1896 ), gwyddonydd a chyfreithiwr ; g. 11 Gorffennaf 1811 yn Abertawe , mab i John Grove ac Anne (gynt Bevan ) . Aeth i Goleg Brasenose , Rhydychen , a graddiodd B.A. 1832 , M.A. 1835 . Cafodd radd D.C.L. yn 1875 a LL.D., Caergrawnt , yn 1879 . Ym mis Tachwedd 1831 aeth i Lincoln's Inn a daeth yn fargyfreithiwr yn Nhachwedd 1835 . Tueddai yn gryf at wyddoniaeth ac enillodd fri mawr am ei ymchwiliadau gwyddonol . Daeth yn aelod o'r Royal Institution yn 1835 ac yn is-lywydd yn 1844 . Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1840 . O 1840 hyd 1847 bu'n athro yn y London Institution , ac yn 1847 cafodd fathodyn y Royal Society . Yn 1853 gwnaed ef yn Q.C. , ac am rai blynyddoedd bu'n gysylltiedig â chylchdeithiau cyfreithiol De Cymru a Chaer . Bu'n farnwr o 1871 hyd 1887 . Gwnaed ef yn farchog yn 1872 ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar ei ymddiswyddiad yn 1887 . Yn 1837 priododd May Emma Maria , merch John Diston Powles , Summit House , Middlesex ; bu hi f. yn 1879 . Bu ef f. yn Llundain , 1 Awst 1896 .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography (Supp.)

Awdur:

Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

GROVE , Syr WILLIAM ROBERT ( Bywg. , 290) Gw. ymhellach Colin Matheson , Glam. Hist. , 9 ( 1973 ), 96-104.