GRONOW, DANIEL (bu farw 1796), gweinidog Presbyteraidd

Enw: Daniel Gronow
Dyddiad marw: 1796
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llangyfelach, ac yr oedd yn aelod yn y Mynydd-bach. Bu yn academi Caerfyrddin o 1757 hyd 1760, pan urddwyd ef yn gynorthwywr i Philip Pugh ym mugeiliaeth y Cilgwyn a'i changhennau; ymddengys mai Ciliau Aeron a'r Neuadd-lwyd oedd maes neilltuol Gronow. Y mae'n eglur oddi wrth gyfeiriadau dirmygus Edmund Jones (dyddiadur 1768) ato nad oedd yn Galfin uniongred hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Yn 1769, galwyd ef i fugeilio eglwys Annibynnol newydd y Bala (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, i, 406-7), lle y bu'n weithgar iawn, gan sefydlu eglwysi yn Nhy'nybont a Llandderfel. Symudodd yn 1780, yn olynydd i Thomas Evans (1714? - 1779) ym Mixenden, swydd Efrog; yn ei gyfnod byr yno yr oedd yn Undodwr pendant (Miall, Congregationalism in Yorkshire, 319, a'i geilw'n ' David Gronow,' ac a dystia na wyddai ryw lawer o Saesneg). O 1782 hyd 1787, bugeiliodd amryw eglwysi yn y sir, ond symudodd wedyn i Alfreston (Derby), lle y bu farw yn 1796.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.