GRIFFITH, MORGAN WILLIAM ('Pencerdd Mynwy '; 1855 - 1925);

Enw: Morgan William Griffith
Ffugenw: Pencerdd Mynwy
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1925
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd ef ym Mhontypŵl, sir Fynwy, Awst 1855. Yr oedd ei dad yn arweinydd y canu yng nghapel yr Annibynwyr. Yn 1876 aeth i Goleg Aberystwyth am gwrs o addysg o dan Dr. Joseph Parry, a bu yno dair blynedd. Ef a Haydn Parry a gyfeiliai yn y perfformiad cyntaf o ' Blodwen ' (Dr. Joseph Parry). Yn 1879 penodwyd ef yn athro cerddoriaeth yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, a gwasnaethodd yno am dros 40 mlynedd. Penodwyd ef yn organydd yr eglwys Bresbyteraidd yn 1880, ac yn 1885 yn organydd a chôrfeistr eglwys S. Mair, Dolgellau. Enillodd radd baglor cerddoriaeth, Prifysgol Toronto. Cyfansoddodd lawer, a bu ei ganeuon ' Gwlad y Bryniau ' a'r ' Ynys Wen ' a'i ddeuawd ' Chwi feibion dewrion,' yn boblogaidd. Cyfansoddodd hefyd anthemau a cherddoriaeth eglwysig. Ffaith ddiddorol amdano yw fod ganddo gryn ddiddordeb yn yr opera; ar un adeg ffurfiodd gwmni Dolgellau i chwarae'r opera ' Sylvia,' gwaith W. Rhys Herbert, a chwaraewyd hi yn Nolgellau ac Abermaw dan gyfarwyddyd Griffith. Bu farw yn y Southern Hospital, Lerpwl, 2 Medi 1925, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys S. Mair, Dolgellau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.