GRIFFITH, WILLIAM (1853 - 1918), archwiliwr ac awdur

Enw: William Griffith
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1918
Priod: Annie Griffith (née Morris)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: archwiliwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd yn y Felinheli; addysgwyd yn 1853 yn ysgol uwchradd Caernarfon. Gwnaed ef yn bartner yn un o chwareli'r sir, a chafodd brofiad yno o waith y fasnach lechi yn ei hamrywiol agweddau. Aeth allan i Victoria, Awstralia, i weithio ym mwngloddiau'r dalaith honno, a daeth yn fedrus fel archwiliwr. Dychwelodd am dymor i Gymru ac ymddiddori yn y gweithiau aur. Yna hwyliodd i Dde Affrica i fwnau diemwnt Kimberley, a dod yn ôl eto i chwareli Cymru. Dychwelodd drachefn i Dde Affrica ac o'r adeg honno bu ganddo ran amlwg yn hanes a datblygiad canoldir Affrica. Dewiswyd ef gan Cecil Rhodes i arwain mintai i ganoldir Affrica i edrych i mewn i ansawdd y tir, ac fe'i penodwyd ef gan amryw o gwmnïau i wneud adroddiad am gyfoeth mwnawl y wlad. Bu yng nghwmni Dr. Jameson yn archwilio dros y British South Africa Chartered Company. Cyhoeddodd ddau lyfr, Anturiaethau Cymro yn Africa , 1894, 1895. Yn 1893 priododd Annie, ail ferch Thomas Morris, Aberystwyth, a bu iddynt ddau fab. Bu farw yn Llundain 25 Tachwedd 1918, yn 65 oed, a'i gladdu ym mynwent Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.