GRIFFITH, WILLIAM (1704 - 1747), Morafiad Cymreig cynnar (un o aelodau gwreiddiol eu Cynulleidfa yn Llundain)

Enw: William Griffith
Dyddiad geni: 1704
Dyddiad marw: 1747
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Morafiad Cymreig cynnar (un o aelodau gwreiddiol eu Cynulleidfa yn Llundain)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Mhenmorfa, Eifionydd, Chwefror 1704 (gall mai 1703). Yn grydd yn Llundain, ymunodd â'r Methodistiaid, ond erbyn 1742 yr oedd wedi troi at y Morafiaid. Yn 1743, anfonwyd ef ar daith i Gymru - y mae'n debyg mai ef oedd y cenhadwr Morafaidd cyntaf yn Sir Benfro. Wedi dal amryw swyddau yn Eglwys y Brodyr yn Llundain, bu farw pan ar ymweliad â'r Almaen, ar derfyn 1747.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.