GRIFFITH, GEORGE WILLIAM (1584 - 1655?), tir-feddiannwr, cyfreithiwr, ustus heddwch, hynafiaethydd

Enw: George William Griffith
Dyddiad geni: 1584
Dyddiad marw: 1655?
Priod: Maud Griffith (née Bowen)
Rhiant: William Griffith
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tir-feddiannwr, cyfreithiwr, ustus heddwch, hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Perchnogaeth Tir; Cyfraith; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Francis Jones

o Benybenglog, Sir Benfro; ganwyd 21 Ebrill 1584, mab hynaf William Griffith. Priododd, 22 Tachwedd 1605, Maud Bowen o Lwyngwair, a bu iddynt saith o blant. Penodwyd ef yn ysgrifennydd cyhoeddus yn Sir Benfro gan gyngor y gororau, yr oedd yn ddistain barwniaeth Cemaes, cynorthwyodd George Owen, Henllys, gyda'i ymchwiliadau hanesyddol, ac ysgrifennodd lawer o lawysgrifau achau. Croesawodd feirdd Cymru benbaladr i'w blas, ac ef oedd un o'r boneddwyr olaf yn Ne Cymru i noddi beirdd yn ôl yr hen arferiad. Yn ystod y Rhyfel Cartrefol ochrodd gyda Cromwell, ac yr oedd yn aelod o bwyllgorau seneddol. Ymosodwyd ar Benybenglog gan filwyr y brenin, a difrodwyd ei eiddo. Profwyd ei ewyllys yn P.C.C. ar 9 Awst 1655. Claddwyd ef ym Meline.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.