GRIFFITH
,
WALTER
(
1819
-
1846
),
dadleuwr dros Fasnach Rydd
ei dad oedd
David
Griffith
o'r
Blowty
yn
Llŷn
,
gweinidog Annibynnol
yn
Nhalsarn
(
1814-30
) ac wedyn
siopwr
ym
Methesda
hyd
1840
, pan aeth yn
weinidog
i
Riwabon
(
H. Egl. Ann.
, iii, 228, iv, 30); bu f. yn
1843
; g.
Walter
Griffith
yn
Awst 1819
), a phrentisiwyd ef i
siopwr
ym
Methesda
. Symudodd i weithio gyda
hetiwr
ym
Manceinion
, ac yno atynwyd ef i'r mudiad i ddiddymu'r
Deddfau Ŷd
. Penodwyd ef yn
siaradwr cyflog
yng
Ngogledd Cymru
dros yr ‘
Anti-Corn-Law League
,’ a bu'n cynnal cyfarfodydd yng ngwahanol siroedd
Gwynedd
; sgrifennai hefyd i'r
Dysgedydd
ar y pwnc, a chyhoeddodd bamffled,
Treth y Bara
, yn
1840
. Bu f. yn
Abergele
yn
1846
. Dan y ffugenw ‘
Gwallter Bach
,’ canodd gryn swm o brydyddiaeth.
Llyfryddiaeth:
-
Hugh Derfel Hughes
,
Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid
,
1866
, 97;
-
Y Dysgedydd
,
1840
,
1841
, am hanes y cyfarfodydd masnach rydd.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor