GRIFFITHS, JOHN THOMAS (1824 - 1895), peiriannydd mwnawl yn U.D.A.;

Enw: John Thomas Griffiths
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1895
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd mwnawl
Maes gweithgaredd: Crefydd; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Cerddoriaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd ddydd Nadolig 1824 yn ardal Brynengan, plwyf Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Ymfudodd gyda'i rieni yn 1831 i Efrog Newydd, eithr gan fod colera yno symudodd y teulu ymhen blwyddyn i Minersville, Pa. Aeth y mab i weithio mewn glofa yn Minersville, ac wedyn yn Summit Hill, Carbon County. Bu'n helpu i sefydlu eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Wilkesbarre. Cyfansoddodd rai tonau ar gyfer emynau. Bu farw 18 Chwefror 1895.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.