GRIFFITHS
,
THOMAS
(
1645
-
1725
)
gweinidog cyntaf eglwys Fedyddiedig y Welsh Tract
yn nhalaith bresennol
Delaware
,
U.D.A.
;
g. yn
Llanfyrnach
,
sir Benfro
, yn
1645
, ond ‘o blwyf
Melinau
’ yw'r disgrifiad ohono ef ac
Elizabeth
ei wraig yng nghofrestr
eglwys Rhydwilym
yn
1689
. Nid oes dystiolaeth yn llyfr yr eglwys ei fedyddio yno, fel y dywed rhai ysgrifenwyr, yn
1677
, nac ychwaith ei ordeinio yn un o
gydweinidogion
a chynorthwywyr
William
Jones
[q.v.]
, ond gwyddys mai ef a arweiniodd y fintai fechan o'r aelodau a ymfudodd i'r
America
yn
1701
, ac ymsefydlu i ddechrau yn
Penepek
,
Pennsylvania
, ac yn
1703
yn y
Welsh Tract
. Bu f.
25 Gorffennaf 1725
, yn 80 oed, a'i gladdu, yn
Penepek
medd rhai ond yn fwy na thebyg ym
Mhencader
,
Delaware
. Mab-yng-nghyfraith iddo oedd
Abel
Morgan
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru
,
1839
,
1885
, 355-6;
-
Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru
,
1893–1907
, iii, 108;
- llyfr eglwys Rhydwilym (yn Ll.G.C.);
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
9258;
-
The Cambrian
,
1881
, 188-90;
-
Y Cenhadwr Americanaidd sef cylchgrawn
gwybodaeth fuddiol a dyddorawl i Gymry America / The
American messenger
, Utica, Efrog Newydd,
1840-1901
,
1880
, 324-5.
Awdur:
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth