GRIFFITH
,
SIDNEY
(‘
Madam Griffith
'; bu f.
1752
)
,
merch
Cadwaladr
Wyn
o'r
Foelas
yn
Ysbyty Ifan
(
J. E.
Griffith
,
Pedigrees
, 326;
gw. yr ysgrif ar y teulu
— galwyd hi ar ôl ei nain
Sidney
Thelwall
o
Blas-y-ward
); priododd (tua
1741?
— g. ei mab yn
1742
) â
William
Griffith
o
Gefnamwlch
(
J. E.
Griffith
, op. cit., 169;
gw. yr ysgrif ar y teulu
), meddwyn anhygar y methai hi ddygymod ag ef. Daeth at grefydd yn
1746
dan bregeth
Peter
Williams
. Cyfarfu gyntaf â
Howel
Harris
ddechrau
Hydref 1748
, yn
Llyn
. Ddechrau
1749
yr oedd hi yn
Llangeitho
gyda
Daniel
Rowland
, a aeth â hi i'r sasiwn yn
Errwd
(
1 Chwefror
); oddi yno, talodd ymweliad â
Threfeca
. Pan oedd
Harris
yn dychwelyd o daith yn
Llyn
(
19-20 Gorffennaf
), cyd-deithiodd gydag ef i sasiwn
Llangeitho
(
26 Gorffennaf
), a hebryngodd yntau hi mor bell â
Llanfair-ym-Muellt
ar ei ffordd adref. Y mae'n amlwg i
Harris
syrthio'n ddwfn dan ei dylanwad ar y teithiau hyn — dylid nodi, fodd bynnag, mai gyda
Rowland
yr ochrai hi ar y pryd yn y materion yr anghytunai
Rowland
a
Harris
arnynt, megis gwrthwynebiad
Rowland
i
Griffith
Jones
,
Llanddowror
, ac i
James
Beaumont
[q.v.]
. Pan ddychwelodd
Harris
o
Lundain
i
Drefeca
(
23 Medi
), wele ‘
Madam Griffith
’ yno'n ei aros, gyda'r newydd fod ei phriod yn
fethdalwr
, a'i fod wedi ei churo a'i throi allan o'r ty am wrthod bodloni i aberthu ei gwaddol iddo. Dymunai
Harris
iddi aros yn
Nhrefeca
, ond erbyn hynny yr oedd
Mrs.
George
Whitefield
wedi gwenwyno meddwl
Mrs.
Harris
tuag ati, a bu'n rhaid iddi gychwyn tua'r gogledd; yr oedd tafodau maleisus ymhlith y
cynghorwyr Methodistaidd
hefyd ar waith, a heblaw hynny yr oedd hithau'n honni galluoedd proffwydoliaethol ac yn ymyrraeth yn nhrefniadau'r mudiad
Methodistaidd
. Cymerwyd hi'n wael ar ei thaith, a bu'n rhaid i
Harris
a'i wraig fynd i
Llanidloes
i'w chyrchu'n ôl i
Drefeca
. Ar ddiwedd y flwyddyn, achosodd y sgandal rwyg rhwng
Harris
a
Whitefield
. Cynyddodd yr anghydfod yn
1750
; ac er nad oedd
Rowland
na
William
Williams
(
Gomer M.
Roberts
,
Y Per Ganiedydd
, 126) yn rhoi unrhyw gred i'r enyniadau a ddygid yn erbyn
Harris
a ‘
Madam Griffith
,’ yr oedd y cynghorwyr (asgwrn cefn plaid
Rowland
) yn codi melin a phandy arnynt; yn y cyfamser, yr oedd y ddwy wraig yn cydfyw'n ddigon heddychol yn
Nhrefeca
— yn wir, yr oedd rhai hyd yn oed o'r
cynghorwyr
, gwyr digon llym a
Phiwritanaidd
, â barn uchel iawn am gymeriad y ‘
broffwydes
.’ Edrychai
Harris
arni fel ‘llygad corff Crist’ (bu iddi, gyda llaw, fwy nag un rhagflaenydd yn y cymeriad hwn, yng ngolwg
Harris
), ac yr oedd yn gwrando'n ddibetrus ar ei chynghorion, ac yn mynd â hi o gwmpas y wlad fel math o arch y cyfamod. Ceisiodd
Morgan John
Lewis
[q.v.]
(bu yntau gynt yn ‘llygad') ymliw ag ef, ond gwrthododd
Harris
wrando (
Mai 1750
); ofer hefyd fu ymgais ‘
Madam Griffith
’ ei hunan (Mehefin) i gyfryngu rhwng
Harris
a
Rowland
(a
Howell
Davies
). Erbyn mis Medi, yr oedd amgylchiadau
Mrs.
Griffith
yn faich ar
Harris
— ni chynhaliai ei gwr mohoni, a bu'n rhaid i
Harris
dalu drosti, gofalu am addysg ei mab, a mynd yn feichiau drosti. Erbyn dechrau
1752
, yr oedd ei hiechyd wedi gwaethygu'n ddirfawr, ac aeth
Mrs.
Harris
â hi i
Lundain
a'i rhoi yng ngofal ei brawd
Watkin
Wyn
; bu hi f. yno
31 Mai 1752
. Yr oedd wedi rhoi ymrwymiad i
Harris
am £400 i'w ddigolledu am ei dreuliau a'i ymrwymiadau ar ei rhan; ond ni allai'r
ysgutor
(
Wyn
) gyfarfod â'r gofynion (yr oedd
William
Griffith
wedi m. ar
11 Chwefror
) — dylid er hynny gofio ei bod hi gynt wedi rhoi swm mawr (efallai £900) i
Harris
at sefydlu
Trefeca
(
M. H.
Jones
,
The Trevecka Letters
, 188). Heb ymboeni i wrthbrofi'r cyhuddiadau eithafol a ddygwyd yn erbyn
Harris
ynglyn â'i berthynas â ‘
Madam Griffith
,’ eto ni ellir osgoi barnu iddo ddangos cryn ffolineb, ac y mae ei ddyddlyfrau ef ei hunan yn y blynyddoedd hyn yn cynnwys llawer ymadrodd y gellid darllen ystyr anffafriol i mewn iddynt. Y mae'n amlwg i'r peth wneud drwg i
Harris
ym marn y wlad (noder, e.e. ar ddamwain,
Cymm.
, xlv, 54, a llythyr
Noah
Jones
at
Thomas
Morgan
‘
Henllan
’
yn
1750
,
N.L.W. MS. 5459
— a dywed
Richard
Bennett
fod ‘pobl tua
Chaerfyrddin
yn gwneud gogan-gerddi amdano'), a'i fod yn un (ond yn un yn unig) o achosion yr ymraniad ymysg y
Methodistiaid
o
1750
ymlaen. Eithr barn bwyllog
Bennett
, a weithiodd drwy ddyddlyfrau a gohebiaeth
Harris
yn y blynyddoedd hyn, oedd nad oedd ynddo ond
‘arwyddion o feddwl wedi colli ei fantoliad, ac arno angen dybryd am seibiant i adfeddiannu ei bwyll'
; a thrachefn,
‘dirywiad meddyliol, yn hytrach na moesol, a'i harweiniodd i'r annoethineb amryfus hwn.’
Llyfryddiaeth:
-
R. Bennett
,
Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf,
1738–1852
, 1929
, 153-238, passim;
- a ffynonellau eraill ar wasgar.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor