Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH , Syr JOHN PURSER ( 1848 - 1938 ), peiriannydd ; g. yng Nghaergybi 5 Hydref 1848 , mab i'r Parch. William Griffith ( 1801 - 1881 ) [q.v.] . Addysgwyd ef yn ysgol Forafaidd Fulneck a Choleg y Drindod , Dulyn ( M.A. ). Cafodd yrfa nodedig iawn fel peiriannydd yn Iwerddon (manylion yn Who was Who , 1929-49 , a The Times , 22 Hydref 1938 ); urddwyd ef yn farchog yn 1911 ; ac yn 1922 etholwyd ef yn aelod o Senedd y Wladwriaeth Rydd Wyddelig . Bu f. 22 Hydref 1938 . Ymfalchïai Syr John yn ei dras Gymreig a Morafaidd ; a bu hefyd yn gyfaill da i eglwys fechan Gymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Nulyn .

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor