GRIFFITHS
,
JOHN
(
1837
-
1918
).
arlunydd
;
g. yn
Llanfair Caereinion
29 Tachwedd 1837
, yn fab i
Evan
Griffiths
a'i wraig
Mary
Evans
(o
Fachynlleth
); ar farw'r tad, aeth y fam i
gadw tŷ
i
Syr
James
Clarke
,
meddyg
i'r
frenhines
Victoria
. Magwyd y bachgen gan ei ewythr
Richard
Griffiths
,
Neuadd Uchaf
,
Llanfair
; ond pan sylwodd
Syr
James
ar ei dueddiadau, rhoes ef dan addysg yn y sefydliad a elwir heddiw'n ‘
Royal College of Art
.’ Bu wedyn yng ngwasanaeth y
South Kensington Museum
, a bu'n gweithio ar
addurno adeiladau'r
amgueddfa
. Yn
1865
, penodwyd ef yn
athro celfyddyd
yn y
Bombay School of Arts
; daeth wedyn yn
brifathro
arni; ei gydweithiwr a'i gyfaill pennaf yno o
1865 hyd 1875
oedd
John Lockwood
Kipling
, tad
Rudyard
Kipling
. Dan arolygiaeth
Griffiths
yr addurnwyd llawer o adeiladau cyhoeddus newyddion
Bombay
. Ond ei wasanaeth gwerthfawrocaf oedd cadw, a dwyn i oleuni, hen gelfyddyd yr oesau gynt yn
India
. Yn neilltuol, copïodd y darluniau ar furiau'r temlau Bwdistaidd yn
ogofau Ajanta
, darluniau sy'n mynd yn ôl i tua
200 C.C.
; rhoddwyd y copïau hyn i gadw yn
South Kensington
, a chyhoeddwyd dwy gyfrol ‘folio’ ohonynt yn
1896-7
ar orchymyn
Llywodraeth India
. Golygfeydd yn
India
, a darluniau o'r bywyd brodorol, oedd y rhan fwyaf o ddarluniau
Griffiths
ei hunan; y mae dau ohonynt yn y casgliad brenhinol. Dychwelodd o
India
yn
1895
, a bu'n byw am beth amser yn y
Gwernydd
,
Manafon
; ond symudodd wedyn i
Norton
,
Sherborne
, a bu f. yno
1 Rhagfyr 1918
. Yr oedd yn briod, a chanddo ddwy ferch.
Llyfryddiaeth:
-
Marw-goffa yn
The Times
,
3 Rhagfyr 1918
;
-
ôl-rifynnau'r
The Times of India
;
- gwybodaeth bersonol;
-
Men of the Day
,
Tachwedd 1904
.
Awdur:
Charles Heber Humphreys, (1882-1955), Llandudno