GRIFFITHS, JOHN (1820 - 1897), clerigwr ac eisteddfodwr

Enw: John Griffiths
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1897
Priod: Jennet Matilda Griffiths (née Morgan)
Priod: Mary Griffiths (née Lewis)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 11 Mai 1820 yn Parc-y-neuadd, ger Aberaeron, Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg gan athro preifat ac yn ysgol ramadeg Aberteifi, ac yna dilyn cwrs yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Gan ei fod yn rhy ieuanc i dderbyn urddau, dychwelodd i'w hen ysgol am bedair blynedd yn brifathro, a gwnaeth waith da yno. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1843 a'i drwyddedu i guradiaeth Aberystruth, sir Fynwy, a derbyniodd urddau offeiriad yn 1844. Bu'n gurad wedyn yn Nant-y-glo, ac yn 1846 penodwyd ef yn ficer Llansanwr, Sir Forgannwg; yn 1847 derbyniodd yn ychwaneg reithoraeth Eglwys Fair y Mynydd. Yn 1855 penodwyd ef yn rheithor Castell Nedd, a daliodd y swydd honno hyd 1896. Yn 1877 penodwyd ef yn archddiacon Llandaf, a bu yn y swydd hyd ei farw, 1 Medi 1897. Yn 1877, hefyd, rhoddwyd iddo radd B.D. gan archesgob Caergaint.

Yr oedd John Griffiths yn un o wyr amlwg ei gyfnod, ac yn uchel ei barch gan Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr fel ei gilydd. Rhoes lawer o'i amser a'i egni i adeiladu eglwysi ac ysgolion; yr oedd yn eisteddfodwr pybyr, a bu ganddo ran yn niwygio'r eisteddfod genedlaethol o 1860 ymlaen; bu'n gyfaill da i Golegau Prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd. Telir teyrnged uchel i'w fedr fel pregethwr ac areithiwr argyhoeddiadol. Priododd ddwywaith; yn gyntaf â Mary, merch Caleb Lewis o Aberteifi, a fu farw yn 1880, ac yna yn 1882 â Jennet Matilda Morgan o Goed Ffranc, Morgannwg. Bu ef farw 1 Medi 1897 a'i gladdu ym mynwent Henfynyw, ger Aberaeron. Bu farw ei ail wraig yn 83 mlwydd oed yn 1933. Y mae tuedd i'w gymysgu â John Griffith (1818 - 1885).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.