Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITHS , JAMES ( 1782 - 1858 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ; g. 2 Awst 1782 yn Clungwyn , Meidrim , sir Gaerfyrddin , mab David a Margaret Griffiths , aelodau yng nghapel Bethlehem , S. Clêr . O ysgol yn S. Clêr aeth i ysgol ramadeg Caerfyrddin , ac oddi yno i'r Coleg Presbyteraidd yn 1802 . Ordeiniwyd ef ym Machynlleth ym mis Mawrth 1807 . Cynhyddodd aelodaeth ei eglwysi; yr oedd Aberhosan a Penuel o dan ei ofal ac yr oedd yn arolygu eglwysi Towyn , Llanegryn , a Llwyngwril . Priododd Sarah Phillips yn 1811 . Yn 1841 symudodd i Rhodiad a Tyddewi , lle y llafuriodd hyd ei farw ar 11 Ebrill 1858 ; claddwyd ef yn Ebenezer , Tyddewi . Cyhoeddodd Trefn Eglwys dan y Testament Newydd , 1811 . Gyda John Roberts , Llanbrynmair , ac eraill, yr oedd yn gyfrifol am y ‘ System Newydd .’ Cyfrifid ei syniadau yn anuniongred, a bu raid i Griffiths ddioddef o'u plegid; mynnai gweinidogion uniongred ei esgymuno.

Llyfryddiaeth:

  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , i, 403;
  • Oriel Coleg Caerfyrddin , 1909 ;
  • T. Morgan , Enwogion Cymreig (1700–1900), Cyf. 1, 1907 ;
  • Cyfrol Goffa Gweinidogion Annibynnol Penfro , 9.

Awdur:

Y Parch. Ebenezer Curig Davies, (1895-1981), Abertawe