GRIFFITHS, ERNEST HOWARD (1851 - 1932), physegwr ac addysgwr

Enw: Ernest Howard Griffiths
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1932
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: physegwr ac addysgwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Edwin Augustine Owen

Ganwyd 15 Mehefin 1851 yn Aberhonddu, mab y Parch. Henry Griffiths. Cafodd ei addysg yn Owen's College, Manceinion, a Sidney Sussex College, Caergrawnt (Sc.D., 1902), lle y bu'n gymrawd (1897), ac, yn ddiweddarach, yn gymrawd mygedol. Yn 1890 bu'n gwneuthur mesuriadau gwres a oedd o bwysigrwydd sylfaenol; erbyn 1893 yr oedd wedi llwyddo i bennu gwerth mecanyddol gwres trwy gyfrwng y dull trydanol. Cafodd ei ethol yn F.R.S. yn 1895. Yn 1902 dewiswyd ef yn brifathro Coleg Prifathrofaol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, i ddilyn J. Viriamu Jones, y prifathro cyntaf. Bu raid i'w waith ymchwil ymarferol aros hyd nes y cafwyd gweithdy ymchwil gwyddonol yn y coleg. Am rai blynyddoedd ymroes i'w ddyletswyddau gweinyddol ac addysgol gan roddi llawer o'i amser i hyrwyddo'r cynllun i gael coleg newydd ym mharc Cathays; yr oedd iddo ddiddordeb arbennig yn un o'r adeiladau, y ' Viriamu Jones Memorial Research Laboratory,' a rhoes lawer o'i hamdden i gwestiwn dodrefnu'r adeilad hwnnw'n addas. Yr unig waith gwyddonol y bu iddo gyfran ynddo yng Nghaerdydd ydoedd yr ymchwil i fater 'thermal capacities of metals from liquid air temperatures up to 100°C. ' Yn 1918 ymneilltuodd i Gaergrawnt ac am rai blynyddoedd ymroes yn egnïol i waith y British Association for the Advancement of Science, corff y daeth yn drysorydd iddo. Parhaodd gyda'r gwaith hwn hyd nes y lluddiwyd ef gan afiechyd hir a phoenus. Bu farw 3 Mawrth 1932. Cafodd ddoethuriaethau 'er anrhydedd ' gan dair prifysgol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.