GRIFFITHS, GRIFFITH (1762 - 1818), gweinidog Presbyteraidd

Enw: Griffith Griffiths
Dyddiad geni: 1762
Dyddiad marw: 1818
Plentyn: Thomas Jeremy Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

na wyddys ddim am ei darddiad. Bu yn ysgol Castell Hywel, ac yn 1784 aeth i'r academi yn Abertawe. Yn 1788, urddwyd ef yn gydweinidog â David Griffiths yn Llechryd, ac ar ôl marw hwnnw (1794), daliodd ymlaen ar ei ben ei hunan; cadwai ysgol hefyd. Fel ei gydweinidog, nid oedd o gwbl yn Galfin uniongred; yn wir, drwy gydol ei gyfnod yn Llechryd yr oedd hefyd yn cynorthwyo David Davis ym Mhenrhiw; dywed ei farwgoffa yn y Monthly Repository 'he might be ranked as a low Arian.' Bu farw 31 Ionawr 1818, yn 56 oed, yn Neuadd Wilym, hanner y ffordd rhwng Llechryd ac Aberteifi. Mab iddo oedd T. J. Griffiths ('Tau Gimel').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.