Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH , GEORGE ( 1601 - 1666 ), esgob Llanelwy o 1660 hyd 1666 ; g. 1601 yn y Penrhyn , sir Gaernarfon (medd T. F. Tout yn y D.N.B. ). Y gwir yw mai un o Griffithiaid Carreg Lwyd ym Môn [q.v.] ydoedd, un o geinciau ieuengaf y Penrhyn . Gyda'r teulu mwyaf eglwysyddol yn y tir — ei daid yn rheithor , ewythr iddo'n rheithor , dau o'i frodyr yn briod â merched i esgobion , un o'r brodyr hyn yn ganghellor esgobaeth Bangor yn ogystal â Llanelwy . Aeth i Ysgol Westminster ac i Rydychen , Christ Church ; M.A. 1626 , D.D. 1635 . O dan John Owen , esgob Llanelwy , tad-yng-nghyfraith ei frawd William , daeth swydd wedi swydd i'w ran — caplan , canon , rheithor y Dref Newydd , erbyn 1633 ei gadael a dod yn rheithor Llanymynech a Llandrinio . Yng nghonfocasiwn 1640 dywedir ei fod wedi pwysleisio'r angen o gael argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg .

Yr oedd dyddiau cythryblus y rhyfeloedd cartref ar fin dod, a suddodd y profedigaethau i'w dyfnder isaf gyda Deddf Taenu yr Efengyl ( 1650-3 ). Dywaid Tout na throwyd George Griffith allan o Lanymynech ; hanner y gwir yw hynny, cafodd ganiatâd i gadw Llanymynech ar yr amod iddo droi ei gefn ar Landrinio , canys yr oedd y Ddeddf honno yn gosod llaw farw ar ddal mwy nag un fywoliaeth. Yn bur fuan aeth yn ffrae wyllt rhwng y Doctor a'r Piwritan Vavasor Powell , dewr ei galon a phwerus ei lais, gŵr a wyddai am bob modfedd o fynydd-dir Maesyfed a gwlad wastad Trefaldwyn Isaf ; cawsant ddadl gyhoeddus yn yr awyr agored yn y Capel Newydd ; gwaith Griffith yno oedd amddiffyn gweddïau ar lyfr yn hytrach na gweddi o'r frest; yn wir, llwyddodd y ddau i redeg ar ôl ei gilydd i bedair congl dadleuaeth ar ffurfiau addoli a llywodraeth eglwysig. Yr oedd y ddwy ochr yn crio buddugoliaeth; cyhoeddodd plaid Vavasor bamffled yn rhoddi'r hanes, a phlaid y Doctor dri o bamffledau. Er mor ddygn yr amddiffynnai y safon Anglicanaidd , gadawyd iddo aros yn Llanymynech hyd yr Adferiad , ac aeth dipyn o ffordd i gydnabod y caredigrwydd hwn drwy gymeradwyo pregethwyr i sylw'r ‘Triers’ Piwritanaidd (rhyw Biwritaniaid go arwynebol oedd y rhan fwyaf o'r pregethwyr hyn).

Pan ddaeth yr Adferiad yr oedd gyda'r cyntaf i'w benodi'n esgob , esgob Llanelwy . Yn Nhy'r Arglwyddi yr oedd iddo ran yn saernïo Deddf Unffurfiaeth 1662 , a gofalu bod Llyfr y Weddi Gyffredin yn dod allan yn ddianaf o'r dadleuon. Yn yr esgobaeth mynnodd gadw at reol yr esgob Owen fod pregethu Cymraeg i fod yn eglwys blwyf Llanelwy , ac nid oedd dim trugaredd ganddo at glerigwyr diog a drwgfucheddus; tu allan i'r esgobaeth, yn 1664 , penodwyd ef (gydag esgob Llundain ) i ddatrys dwy broblem astrus yn esgobaeth Tyddewi . Bu f. fis Tachwedd 1666 , gan adael un dirgelwch go fawr heb ei egluro; pan ofynnwyd iddo gan yr archesgob Sheldon yn 1665 pa nifer o weinidogion a drowyd allan yn esgobaeth Llanelwy wedi'r Adferiad , dywedodd ar ei ben ‘dim un,’ pryd y cydnabyddir gan haneswyr o'r ddwy ochr fod yno amryw ohonynt.

Yn 1684 , 18 mlynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd yn Rhydychen waith o'i eiddo, Plain Discourses on the Lord's Supper , a'r flwyddyn 1685 , yn Rhydychen eto, waith arall, Gweddi'r Arglwydd wedi ei hegluro o dan olygiaeth William Foulkes [q.v.] , rheithor Llanfyllin . Mae peth lle dros gredu fod ail argraff- iad wedi ymddangos yn 1716 , ond mwy o sicrwydd ynghylch argraffiad Caernarfon yn 1806 , o dan nawdd y ‘ Bangor Tract Society .'

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 26;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , 1636-7 , 569;
  • Llawysgrif Rawlinson yn Llyfrgell Bodlean, Rhydychen. c. 261 (18) (reprint);
  • Lambeth MS. 997, i, 66;
  • Llawysgrif Tanner. cxlvi, 2, 3;
  • Llawysgrifau Dolben. 302/89, 114, 304b/31-2, 305/19-;
  • Lambeth MS. 639 (303);
  • Y Cymmrodor , xxxviii ( 1927 ), 151-2, 168-9.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor