GRIFFITH (TEULU), Garn a Plasnewydd, sir Ddinbych.

Ceir manylion helaeth am y rhan fwyaf o aelodau'r teulu hwn yn The Family of Griffith of Garn and Plasnewydd … as registered in the College of Arms from the beginning of the XIth century. Edited … by T. Allen Glenn (Llundain, printiwyd yn breifat, 1934), cyfrol wedi ei sylfaenu ar ddogfennau'r teulu a chofysgrifau eraill. Olrheinir y disgyniadau o ' Eadwine of Atiscross ' (' Edwin Tegeingl ' yr achyddion) hyd at amser cynrychiolydd presennol y teulu. Yr oedd o leiaf ddau aelod o'r teulu yn feirdd, sef IEUAN AP LLYWELYN FYCHAN (bu farw 1532) a'i fab GRUFFYDD AP IEUAN AP LLYWELYN FYCHAN. Yr oedd y tad yn byw yn Llannerch yn nhrefgordd Llewenni, sir Ddinbych, tŷ a gysylltid, yn ddiweddarach, â theulu Davies, Llannerch a Gwysanau (gweler Robert Davies, Llannerch); gwelir ' Cywydd i'r Cryd ' ganddo yn NLW MS 3048D . Ceir erthygl ar y mab, GRUFFYDD AP IEUAN AP LLYWELYN FYCHAN (1485? - 1544?), yn y Geiriadur hwn. Y mae T. A. Glenn yn gwrthod rhai o'r manylion bywgraffyddol a roddodd golygydd Detholiad o Waith Gruffudd ab Ieuan ap Llewelyn Vychan (Bangor, 1910), ac yn rhoddi manylion eraill am y bardd, a oedd yntau, fel ei dad, yn byw yn Llannerch ac yn berchen stad. Bu iddo ddwy wraig. Y gyntaf oedd Janet, merch Richard ap Howel, Mostyn. Yr ail oedd Alice, merch John Owen, Tre Bwll, Llansantffraid, sir Ddinbych.

Dilynwyd Gruffydd ab Ieuan gan nifer o rai'n dwyn y cyfenw Griffith, ac yn rhoddi gwasanaeth cyhoeddus o wahanol fathau. Ŵyr iddo oedd EDWARD GRIFFITH (1589 - 1671?), ' lieutenant-colonel ' milisia sir Ddinbych, un o amddiffynwyr castell Dinbych yn ystod y Rhyfel Cartrefol, ac a ddaeth, wedi'r Adferiad, yn glerc y sesiwn fawr yn siroedd Dinbych a Trefaldwyn. Etholwyd JOHN WYNNE GRIFFITH (1763 - 1834), cofiadur Dinbych (1817 - 1834), yn aelod dros fwrdeisdrefi Dinbych yn seneddau 1818 a 1826; yr oedd hefyd yn cymryd diddordeb mawr mewn amaethyddiaeth. Enw un o gartrefi EDWARD HUMPHREY GRIFFITH (1792 - 1872) oedd Gwastadfryn, ym mhlwyf Llanfihangel-y-pennant, Sir Feirionnydd; efe oedd siryf Meirionnydd am y flwyddyn 1850-1.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.