GRIFFITHS, EVAN ('Ieuan Ebblig '; 1795 - 1873), gweinidog Annibynnol

Enw: Evan Griffiths
Ffugenw: Ieuan Ebblig
Dyddiad geni: 1795
Dyddiad marw: 1873
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 18 Ionawr 1795 yng Ngellibeblig ger Pen-y-bont-ar-Ogwr, yr ieuengaf o saith o blant. Bu'r tad farw pan oedd y plentyn yn 3 blwydd oed, ac oherwydd tlodi'r teulu ni chafodd lawer o fanteision addysg. Pan oedd yn 21 oed dechreuodd bregethu ac aeth am flwyddyn i ysgol a gadwai ei weinidog, W. Jones, Brynmenyn. Ar ôl hyn bu am ddwy flynedd mewn ysgol yng Nghasnewydd dan ofal Dr. Jenkin Lewis. Ar ddiwedd y cyfnod hwn cymeradwyodd ei athro ef i'r arglwyddes Barham i gymryd gofal dwy eglwys, Pilton Green a Park Mill, ym Mro Gŵyr. Dechreuodd ei weinidogaeth 3 Mai 1822 ac ordeiniwyd ef ddwy flynedd yn ddiweddarach, 21 Gorffennaf 1824. Ymddiswyddodd o'i fugeiliaeth, 4 Awst 1828, a symudodd i Abertawe i ymgymryd â'r gwaith o gyfieithu esboniad Mathew Henry i'r Gymraeg, ac ar fethdaliad yr argraffydd, J. A. Williams, yn 1830, prynodd Griffiths y busnes, ac o hyn ymlaen bu ef yn gyfrifol am gyfieithu a chyhoeddi 'r tair cyfrol olaf. Cyhoeddwyd cyf. II yn 1831 a'r ddwy gyfrol arall cyn diwedd 1835. Cyhoeddodd ei wasg hefyd fisolyn plant, Y Rhosyn, Hydref 1832-Rhagfyr 1833, a Y Drysorfa Gynnulleidfaol, Ionawr 1843-Rhagfyr 1845. Er nad oedd ganddo ofal eglwys daliai i bregethu yn gyson ar y Sul. Heblaw ei gyfieithiad o Mathew Henry cyhoeddodd dros 40 o gyfieithiadau a gweithiau gwreiddiol yn cynnwys cyfieithiadau i'r Gymraeg o Lectures (1839), a Sermons Finney (1841), Eastern Customs Burder (1837), Mute Christian Brooks (1830), Church Member's Guide J. A. James, a Rise and Progress … Doddridge. Cyhoeddodd hefyd eiriadur Cymraeg-Saesneg (1847). Ceir rhai o'i lawysgrifau, yn cynnwys yn bennaf nodiadau pregethau, yn y Llyfrgell Genedlaethol (NLW MS 28B , NLW MS 176B , NLW MS 177B , NLW MS 275C ). Priododd, 26 Mai 1829, Mrs. Mary Jones, a fu farw o'i flaen ef. Bu ef farw 31 Awst 1873 a chladdwyd ef ym mynwent Sgeti.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.