Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH , ELIZABETH ( 1720? - 1793 ), awdures ; g. yn sir Forgannwg . Ychydig a wyddys amdani cyn ei phriodas â Richard Griffith , Gwyddel , c. 1752 . O hynny ymlaen bu'n actio mewn dramâu yn Dulyn a Llundain . Yn 1757 cyhoeddodd A Series of Genuine Letters between Henry and Frances , gwaith a oedd ar yr un pryd yn nofel ac yn ddetholiad mewn dwy gyfrol o'i llythyrau hi a'i gŵr at ei gilydd cyn eu priodas. Ysgrifennodd lawer o ddramau ar ôl 1765 — o'r rhain The School for Rakes , 1769 , oedd y mwyaf effeithiol. Ysgrifennodd beth barddoniaeth , cyfieithodd lawer o'r iaith Ffrangeg , ac ysgrifennodd nofelau eraill; yn 1775 cyhoeddodd The Morality of Shakespeare's Drama Illustrated . Enwau ei phlant oedd Richard ( 1752 - 1820 ) a Catherine . Bu f. 5 Ionawr 1793 yn Iwerddon .

Llyfryddiaeth:

  • D. E. Baker , Biographia Dramatica , 1812 , i, 301;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • The Cambridge history of English literature , 1908-1927

Awdur:

Yr Athro Gwyn Jones, M.A., (1907-99), Aberystwyth / Caerdydd

Atodiadau a chywiriadau:

GRIFFITH , ELIZABETH ( 1720? - 1793 Bywg. , 272) gw. ymhellach Tomkins , J.M.S. : The Polite Marriage , Camb. Univ. Press , 1938 .