GRIFFITH
,
JOHN EDWARDS
(
1843
-
1933
),
achyddwr
;
g.
18 Mehefin 1843
. Gan ei fod yn ŵr da arno, medrodd
ymddiddori'n fore ym myd hynafiaeth a byd natur
; dyna sy'n cyfrif am ei waith yn cyhoeddi y
Flora of Anglesey and Carnarvonshire
yn
1894
a'r
Portfolio of Photographs of Cromlechs
,
1900
; bu farw'n un o aelodau hynaf y
Cambrian Archaeological Association
(dod i mewn iddi yn
1888
); yr oedd, o'r cychwyn cyntaf, yn aelod amlwg o
Gymdeithas Hynafiaeth Môn
— ychydig iawn o amser cyn ei farw cyfleodd restri o
offeiriaid
yr ynys i'r
Transactions
, a detholion diddorol o ddyddiaduron
Bulkeley
o'r
Brynddu
[q.v.]
. Yr oedd
Griffith
yn boenus ofalus gyda phopeth a wnâi, manwl a gwyddonol ei ddulliau, ac ni roddai ddim ar lawr heb fod (yn ei farn ef) brofion safadwy y tu ôl iddo. Awr ffodus oedd honno, felly, pan ddechreuodd ar ei hoff waith o
adeiladu tablau achau
; yr oedd yn ei elfen,
a'i gysylltiadau teulu yn gymorth dirfawr iddo. Yr oedd ei dad,
Griffith
Griffith
o'r
Taldrwst
yn
Llangristiolus
, yn aelod o deulu
Penhesgin
yn
Llanfaethlu
, ei fam o waed
Huwsiaid
Plas Coch
, ewythr iddo wedi priodi merch
William
Williams
o
Landegai
[q.v.]
, ef ei hun yn briod (yr eiltro) â merch y
Glasfryn
ger
Llangybi
, priodas a ddaeth ag ef i gyffwrdd clos â chlwstwr newydd o
ysweiniaid
a
chlerigwyr
. Yr oedd llu o ddrysau yn agored iddo i
archwilio papurau preifat a hen ddogfennau
. Daeth yn hyddysg hefyd yn nhablau
Lewis
Dwnn
[q.v.]
, yn y rhestri achau a gasglwyd gan yr
esgob
Humphrey
Humphreys
[q.v.]
, a bu'n lwcus ryfeddol i sicrhau llyfrau llawysgrif
John
Ellis
o'r
Tai Croesion
yn
Llechylched
,
achyddwr
gofalus a ddug ddisgyniadau teuluoedd
Môn
ac
Arfon
i lawr i
1721
. Yn ychwanegol at hyn, bu'n lloffa'n ddygn yng nghofnodion esgobaeth
Bangor
ac yn ewyllysiau'r ‘
Probate Office
’ (y ddwy swyddfa ym
Mangor
yn ei amser ef), a chadarnhau'r profion hyn drwy fynych
archwilio llyfrau'r plwyfi
oedd yn llaw'r
offeiriaid
. Ffrwyth y cwbl oedd cyhoeddi'r
Pedigrees
yn
1914
, llyfr anferth ar achau prif deuluoedd
Môn
ac
Arfon
, heb anghofio eu ceinciau yn siroedd eraill
Gogledd Cymru
, llyfr amhrisiadwy werthfawr i bob chwilotwr a
llyfrgellydd
. Gwir bod y casgliadau lluosog a ddaw i mewn i'n llyfrgelloedd, gyda'u llu o ffeithiau newyddion, yn dangos yn eglur nad yw'r
Pedigrees
yn berffaith: rhai tablau'n anghyflawn, amryw yn anghywir. Y mynegai yn werthfawr, ond yn rhy fyr o lawer. Beth bynnag am y gwendidau hyn, erys y
Pedigrees
yn dyst o blwc aruthr, amynedd, a dyfalbara dirfawr, ac o ffeithiau trefnus a chywir i'w ryfeddu. Bu f.
4 Gorffennaf 1933
.
Llyfryddiaeth:
- Cofion personol;
-
Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire
Families
, 1914
, rhagair, a 6, 31, 210;
-
Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a
Naturiaethwyr Môn
,
1930
, 86;
1931
, 28-102, 113;
1932
, 105.
Awdur:
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor