GRIFFITH, EDWARD (1832 - 1918);

Enw: Edward Griffith
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1918
Rhiant: Lowrie Griffith
Rhiant: David Griffith
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd yn Abermaw 2 Ionawr 1832, mab David a Lowrie Griffith; symudodd ei rieni yn fuan i Ddolgellau i gadw tafarn y 'Crown,' ac wedyn yr 'Angel.' Ychydig iawn o ysgol a gafodd, ond dysgodd lawer yn y ddwy neu dair blynedd y bu yn Ysgol Frutanaidd Dolgellau, dan ofal Daniel Evans, a ddaeth yn ysgolfeistr yno pan agorwyd yr ysgol yn 1840. Yn Nolgellau sefydlodd fusnes llewyrchus fel dilledydd; gallodd ymneilltuo o'r busnes yn 1875. Er na chafodd lawer o fanteision addysg daeth yn hanesydd lleol o fri. Ysgrifennodd gyfres o erthyglau i'r Geninen (vii, viii, ix) ar hanes y Crynwyr ym Meirionnydd a chydnabyddid ef yn awdurdod ar y pwnc. Ymhlith ei ysgrifau i'r un cylchgrawn ceir cyfres o atgofion (xxviii, xxx) yn rhoi hanes ei fywyd cynnar ynghyd â gwybodaeth achyddol a hefyd gipolwg diddorol ar fywyd cymdeithasol yr amserau. Ceir llawer o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan gynnwys ei gasgliad o lawysgrifau Evan Jones ('Ieuan Gwynedd'), David Richards ('Dafydd Ionawr'), a Robert Oliver Rees (gweler N.L.W. Handlist of MSS., i, 232-41). Cymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Feirionnydd a bu'n gadeirydd bwrdd gwarcheidwaid Dolgellau a'r cyngor sir. Gwnaed ef yn ustus heddwch yn 1880, ac ar adeg ei farwolaeth yr oedd yn gadeirydd mainc ustusiaid Dolgellau. Gwnaeth lawer i hyrwyddo addysg elfennol a chanolraddol, a bu'n gadeirydd bwrdd llywodraethwyr ysgol Dr. Williams, Dolgellau. Bu'n ddiacon blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a daliodd amryw swyddi yn y cyfundeb. Bu farw 12 Ebrill 1918 yn Nolgellau, a chladdwyd ef ym mynwent capel Salem yn y dref honno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.