Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH , EDMUND ( 1570 - 1637 ), esgob Bangor ; g. yn 1570 , mab Griffith ap John Griffith , Cefnamwlch , Llŷn . Addysgwyd ef yng Ngholeg y Trwyn Pres , Rhydychen ( B.A. 1589 , M.A. . 1592 , B.D. 1599 ). Daeth yn rheithor Llandwrog , 1596-1637 ; canon Bangor , 1600 ; rheithor segur-swydd Llanfor , sir Feirionnydd , 1601 ; rheithor Llanbedrog , 1604 ; archddiacon Bangor , 1606 ; deon Bangor , 1613-33 ; ac esgob Bangor , 1633-7 . Trwy ei wraig Gwen , merch Morris ap Gruffydd , Methlan , Llŷn , bu iddo 15 o blant. Bu f. 26 Mai 1637 .

Pan oedd yn ddeon Bangor yr oedd ei berthynas â'r esgob Lewis Bayly [q.v.] yn dynn hyd at dorri. Cwympasant allan â'i gilydd ar fater gweinyddu Ysgol y Friars , Bangor , a bu i'w hamryfal wahaniaethau barn beri i'r ddau ymddangos gerbron Llys Ystafell y Seren a'r Cyfrin Gyngor . Y mae'n debyg fod eu gelyniaeth at ei gilydd yn rhan o'r gweryl fawr rhwng John Griffith , Cefnamwlch , nai y deon , a Sir John Wynn , Gwydir , a gynorthwyid gan yr esgob ( gw. ‘ Wynn , Syr John ,’ a ‘ Griffith (teulu), Cefn Amwlch ). Pan oedd yn esgob cyhuddwyd ef gan blwyfolion Bangor ym mis Ionawr 1637 o ddewis yn wardeiniaid ddynion a oedd yn codi treth anghyfreithlon at dalu am gadwraeth adeiladau'r eglwys gadeiriol; yr un mis anfonodd plwyfolion Beddgelert achwyniad ato oherwydd iddo ddewis curad iddynt nad oedd yn pregethu nac yn medru siarad Cymraeg . Cynhaliodd yr esgob synod o glerigwyr ei esgobaeth ym mis Tachwedd 1636 .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • A. Ivor Pryce , The Diocese of Bangor in the sixteenth century being a digest of the registers of the bishops, A.D. 1512-1646 , 1923 , 30, 32;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 ;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers, 1515–1690, in the National Library of Wales and elsewhere , 1926 , 568, 980, 1040, 1080, 1151, 1166, 1417, 1425, 1592;
  • Barber a Lewis , The history of Friars School, Bangor , 1901 ;
  • Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , 5 th R. , 417, 419;
  • Acts of the Privy Council . Record Commission, 1834–7; Record Publications , 1619-21 , 106, 123, 136-7, 139-40;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , 1625-6 , 355; 1628-9 , 364; 1636-7 , 375.


Y mae'r esgob Edmund Griffith yn cael ei gymysgu weithiau ag EDMUND GRIFFITH ( 1559 - 1617 ), mab William Griffith , rheithor Llanfaethlu , sir Fôn ( c. 1516 - 1587 ); g. yn 1559 , aeth i S. Edmund Hall , Rhydychen , yn 1577 ( B.A. 1580 ), ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1583 . Daeth yn rheithor Niwbwrch , sir Fôn , yn 1596 , a Llanbeulan yn 1610 . Bu f. cyn 16 Mai 1617 .

Llyfryddiaeth:

  • A. Ivor Pryce , The Diocese of Bangor in the sixteenth century being a digest of the registers of the bishops, A.D. 1512-1646 , 1923 , 30, 34, 38, 63;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , Add. 1622-5 , 543;
  • Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn , 1929 , 55; 1930 , 89;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 26.

Awdur:

Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor