GRIFFITH
,
DAVID
(
1726
-
1816
),
clerigwr ac ysgolfeistr
.
Fel
athro'r ysgol ramadeg
dan adain
Coleg Crist
,
Aberhonddu
, bu'n
athro
ar ddyrnaid o wŷr pur nodedig —
Thomas
Coke
,
Edward
Davies
(‘
Y Celtic Ddafis
’)
,
Theophilus
Jones
,
John
Jones
,
Llanymddyfri
(
awdur geiriadur Groeg
), a
John
Hughes
,
Aberhonddu
— bob un ohonynt yn y Geiriadur hwn. Mab
Roger
a
Gwenllian
Griffiths
ydoedd, a bedyddiwyd ef yn
eglwys Dewi
,
Llanfaes
,
Aberhonddu
,
5 Mehefin 1726
. Nid yw ei enw ar restrau'r prifysgolion, ond dengys arysgrifau o'i waith
a argraffwyd (yn wallus) yn 3ydd arg.
Theophilus
Jones
ei fod yn
Lladinwr
da. Urddwyd ef yn
ddiacon
13 Awst 1749
gyda theitl i guradiaeth
Bryngwyn
,
Maesyfed
, ac yn
offeiriad
26 Awst 1750
, a'i drwyddedu i guradiaeth
Glasgwm
. Rywbryd cyn
1757
priododd
Ffranses
(g.
1731
), ferch
Hugh
Morgan
,
Betws Diserth
(
siryf Maesyfed
,
1724
); claddwyd hi ym mynwent
S. Ioan Efengylydd
,
Aberhonddu
,
12 Mawrth 1792
. Am rai blynyddoedd cyn
1758
bu ef yn
gurad cynorthwyol
yn yr eglwys honno. Sefydlwyd ef yn
ficer
Merthyr Cynog
ym Mawrth, a'i drwyddedu'n
athro'r ysgol ramadeg
yn
Aberhonddu
,
14 Awst 1758
. Cadwodd y ficeriaeth hyd ei farw. Rhoes ofal yr ysgol i fyny
23 Hydref 1801
, a dilynwyd ef gan
George Albert
Barker
. Daliodd fywiolaethau eraill —
curadiaeth
gyfunol
Llandeilo'r Fan
a
Llanfihangel Nant Bran
(
1759-1816
),
curadiaeth
Dyffryn Honddu
(
1765-96
),
canoniaeth
Llandegle
yng
Ngholeg Crist
(
1776-95
), a
rheithoraeth
Llanbadarnfawr
,
Maesyfed
(
1804-5
). Curadiaid a weinyddai'r plwyfi gwledig yn ei le, oherwydd yn
Aberhonddu
y treuliodd ef y rhan fwyaf o'i oes. O'r
High Street
,
Inferior Ward
, yno, y claddwyd ef ym mynwent
S. Ioan
,
14 Medi 1816
. O'r flwyddyn
1759
peidiodd â defnyddio ‘s’ yn ei gyfenw.
Llyfryddiaeth:
-
Theophilus Jones
,
History of the County of
Brecknock
(3ydd arg.), ii;
- N.L.W., cofysgrifau'r Eglwys yng Nghymru;
- Actau Esgobion Dewi: llyfrau llw, papurau ordeinio;
-
cofrestri Llanfaes a
S. Ioan
, Aberhonddu.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth