GREGORY
,
HENRY
(
1637?
-
1700?
),
pregethwr gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol
.
Daeth yn arweinydd ‘pobl
Hugh
Evans
’ [q.v.]
. Sicrheir hyn gan adroddiad
Henry
Maurice
[q.v.]
yn
1675
; dywaid fod
Gregory
yn
henuriad athrawus
i'r
Arminiaid
yng
ngorllewin Maesyfed
a
gogledd Brycheiniog
a gyfarfyddai yn y
Cwm
(
Cwm Fardy
yn ôl traddodiad) ym mhlwyf
Llanddewi Ystradenni
, yn nhŷ
Peter
Gregory
. Nid oes air am
Henry
Gregory
yn llyfrau ‘consistory’
Aberhonddu
i fyny i ddiwedd
1668
, ond y mae llawer gan
Joshua
Thomas
i'w ddywedyd am brofiadau chwerw a gafodd ar ôl
1668
, ac am y dynged drist a ddigwyddodd i'w erlidwyr.
Llyfryddiaeth:
-
Joshua Thomas
,
Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry
, arg. Pontypridd, 264-5;
-
Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru
,
1893–1907
, ii, 453-6;
-
Cyfeirir at ddau argraffiad, gan E. B. Underhill,
1847, a Nathaniel Haycroft, 1865. Cyfeirir hefyd at Addenda B
(tt. 511–9 yn arg. 1847)
, Add. B, 512, 518.
Awdur:
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor