GOUGE, THOMAS (1605? - 1681), gweinidog Anghydffurfiol a dyngarwr

Enw: Thomas Gouge
Dyddiad geni: 1605?
Dyddiad marw: 1681
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Anghydffurfiol a dyngarwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Dyngarwch
Awdur: Mary Clement

Ganwyd yn Stratford le Bow, Llundain, 19 Medi 1605 (yn ôl D.N.B., 29 Medi 1609), mab hynaf Dr. William Gouge. Addysgwyd ef yn ysgol Eton ac yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, lle y derbyniwyd ef 16 Awst 1625 (B.A., M.A., ac yn gymrawd, 16 Awst 1628). Ordeiniwyd ef yn 1634 a gadawodd Gaergrawnt y flwyddyn ganlynol. Yn ystod 1635 apwyntiwyd ef yn rheithor Coulsdon, Surrey, ac arhosodd yno hyd 1638 pan dderbyniodd fywoliaeth S. Sepulchre, Llundain. Yn 1639 priododd Anne, merch Syr Robert Darcy.

Yn ei blwyf yn Llundain holai yr hen bobl a'r tlodion yn rheolaidd yn y Catecism, gan rannu arian yn eu mysg unwaith yr wythnos, ond newidiodd y dydd o bryd i bryd er mwyn cael cynulliadau da. Yn 1662, collodd ei fywoliaeth oherwydd ei anghytundeb â'r Ddeddf Unffurfiaeth, ac yn ystod y blynyddoedd 1662-71 casglodd ef, ynghyd â rhai o'i gyfeillion, swm mawr o arian i gynorthwyo clerigwyr tlotaf Llundain a ddiarddelwyd. Yn 1671 darllenodd gofiant Joseph Alleine, gweinidog anghydffurfiol Taunton a oedd wedi gosod ei fryd ar efengyleiddio Cymru ond a rwystrwyd yn ei amcan gan farwolaeth. Penderfynodd Gouge ddilyn ei gynlluniau. Ymwelodd â Chymru gan sefydlu nifer o ysgolion, a daeth i gysylltiad â Stephen Hughes ynglyn â'r gwaith o ddosbarthu llyfrau Cymraeg. Apeliodd am danysgrifiadau drwy Loegr a Chymru er mwyn hyrwyddo'i waith ac, yn 1674, trefnwyd Ymddiriedolaeth Gymreig (y ' Welsh Trust') a noddwyd gan brif arweinwyr crefyddol y dydd. Sylfaenwyd tua 300 o ysgolion i ddysgu plant tlodion Cymru i ddarllen ac ysgrifennu Saesneg, i gyfrif, ac i adrodd y Catecism. Cyfieithwyd llawer o lyfrau i'r Gymraeg er budd y bobl hynaf, y llyfrau hyn yn cynnwys peth o waith Gouge ei hun; yn 1677, cyhoeddwyd argraffiad wythplyg o'r Beibl Cymraeg dan olygiaeth Stephen Hughes. Pan fu Gouge farw yn 1681 daeth yr ysgolion i ben, ond dosbarthwyd llenyddiaeth Gymraeg am beth amser ar ôl hyn. Defnyddiwyd gweddill arian yr Ymddiriedolaeth i sefydlu ysgolion elusennol yn Llundain, a gellir cyfrif y mudiad fel sylfaen holl gymdeithasau gwirfoddol dros addysg y tlodion yn y 18fed ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.