GODWIN
,
FRANCIS
(
1562
-
1633
),
ysgolhaig, hanesydd, a hynafiaethydd
;
g. yn
Hannington
,
swydd Northampton
, yn
1562
. Dewiswyd ef yn
esgob Llandaf
yn
1601
yn gydnabyddiaeth am ei
Catalogue of Bishops of England
(arg. 1af,
1601
; arg. newydd,
1615
; arg. yn
Lladin
,
1616
). Cyn hynny, bu'n
dal amryw swyddi eglwysig
yn
ne orllewin Lloegr
, lle yr oedd ei dad,
Thomas
Godwin
, yn
esgob Bath a Wells
(
1584-90
). Cafodd ei ddyrchafu i fod yn
esgob Henffordd
yn
1617
; yno, fel yn
Llandaf
, cyhuddwyd ef o Simoniaeth. Ychydig sydd ar glawr am ei hanes pan yn
esgob Llandaf
oddieithr iddo dreulio'i amser yn diwygio ei
Catalogue
, gan anwybyddu bron yn gyfan gwbl y cynnydd ymysg y
Pabyddion
yn yr esgobaeth. Bu f.
Ebrill 1633
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
E. J. Newell
,
Diocesan History of Llandaff
,
1902
;
-
Adroddiadau'r ‘Historical
Manuscripts Commission,’
,
Wells Manuscripts, Historical MSS.
Commission
, ii, 346-7.
Awdur:
Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor