GLYN
,
WILLIAM
(
1504
-
1558
),
esgob Bangor;
g.
1504
, mab
John
Glyn
,
Heneglwys
,
sir Fôn
. Cafodd ei addysg yng
Ngholeg Queens'
,
Caergrawnt
(
B.A.
1527
,
M.A.
1530
,
B.D.
1538
,
D.D.
1554
), daeth yn
gymrawd
ei goleg yn
1530
, yn un o gymrodyr gwreiddiol
Coleg y Drindod
, ac yn
is-feistr y coleg
hwnnw,
1546-51
. Fel ei gyfaill a'i gyfoed
Thomas
Thirlby
(gw
D.N.B.
), ymddengys iddo dderbyn cyfnewidiadau crefyddol teyrnasiad
Harri
VIII
, serch iddo, yn ei galon, barhau yn
Babydd
, a dewiswyd ef i
gadair ddiwinyddiaeth
Lady
Margaret
yn
1544
. Nid oedd yn hoffi o gwbl Brotestaniaeth eithafol teyrnasiad
Edward
VI
ac yr oedd yn un o'r dadleuwyr a oedd yn amddiffyn traws-sylweddiad gerbron
Comisiwn Brenhinol
Mehefin 1549
; ymddiswyddodd o'i
gadair athro
yr un mis. Cydymffurfiodd yn ddiweddarach, a sefydlwyd ef yn
rheithor
S. Martin's
,
Ludgate
,
1550
, a
Heneglwys
,
sir Fôn
,
1552
. Pan esgynnodd
Mari
i'r orsedd (
1553
) sefydlwyd ef ym mywiolaethau
Cilrhedyn
a
Llanbedr Efelffre
yn
esgobaeth Tyddewi
. Etholwyd ef yn
llywydd
Coleg Queens'
,
Rhagfyr 1553
, ac yr oedd
yn un o'r cynrychiolwyr a ddanfonwyd i
Rydychen
i ddadlau â
Latimer
a
Ridley
yn
Ebrill 1554
. Etholwyd ef yn
is-ganghellor
yn
1554
. Yn
1555
aeth i
Rufain
gyda
Thirlby
ac eraill ar neges ddiplomatig. Cafodd ei ddewis yn
esgob Bangor
yn
1555
, a bu'n ddiwyd yn cynnull ei glerigwyr i synodau rheolaidd a gofalu bod athrawiaethau
Pabyddol
yn cael eu derbyn ynddynt. Nid oes tystiolaeth bod erledigaeth yn ei esgobaeth, ac y mae'n bosibl ei fod yn goddef
clerigwyr
priod am fod ei dad a'i daid ef ei hun yn
offeiriaid
. Yr oedd ganddo ef ei hun fab — sef
Gruffydd
Glyn
,
Pwllheli
,
siryf sir Gaernarfon
,
1563-4
. Bu'r
esgob
f. ar
21 Mai 1558
. Yr oedd ei hanner-brawd
JOHN
GLYN
(a oedd yn hŷn nag ef) yn
ddeon Bangor
,
1505?-34
; ei frawd
GEOFFREY
GLYN
(bu f.
1557
) a sefydlodd
Ysgol Friars
,
Bangor
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
Venn
,
Alumni Cantabrigienses
;
-
A. Ivor Pryce
,
The Diocese of Bangor in the sixteenth
century being a digest of the registers of the bishops,
A.D. 1512-1646
, 1923
;
-
Barber
a
Lewis
,
The history of Friars School, Bangor
,
1901
;
-
J. E. Griffith
,
Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire
Families
, 1914
, 239;
-
Archaeologia Cambrensis
,
1883
, 151;
-
Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a
Naturiaethwyr Môn
,
1930
, 109;
1931
, 115.
Awdur:
Yr Athro Glyn Roberts, M.A., (1904-1962), Bangor