GILBERTSON
,
LEWIS
(
1815
-
1896
),
clerigwr ac is-brifathro Coleg Iesu, Rhydychen;
g.
1815
, yn fab i
William Cobb
Gilbertson
. Treuliodd ei ieuenctid yn
Elerch
,
sir Aberteifi
. Addysgwyd yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
, graddiodd yn
B.A.
1836
,
M.A.
1839
,
B.D.
1847
, ac yr oedd yn
gymrawd
o
Goleg Iesu
,
1840-72
. Ordeiniwyd ef yn
ddiacon
,
1837
, gan
esgob
Caerloyw
a
Bryste
, a chafodd guradiaeth
Sheringham
ger
Cheltenham
. Ordeiniwyd ef yn
offeiriad
yn
1838
yn yr un esgobaeth. O
1841 hyd 1852
bu'n
ficer
Llangorwen
,
sir Aberteifi
, lle daeth yn adnabyddus am ei gysylltiad â
Mudiad Rhydychen
. Yn
1852
dychwelodd i
Goleg Iesu
, ac ar ôl gwasnaethu fel
is-drysorydd
a
darlithydd
, daeth yn
is-brifathro
,
1855-72
. Gwnaed ef yn
ficer plwyf
newydd
Elerch
,
Ebrill 1869
, ond, fel
noddwr
, apwyntiodd ei olynydd,
Tachwedd 1870
. Yn y flwyddyn
honno gwnaed ef yn
rheithor
Braunston
ger
Rugby
, a bu yno hyd ei ymneilltuo yn
1893
. Ymneilltuodd i
Aberystwyth
. Bu f.
2 Ebrill 1896
.
Llyfryddiaeth:
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
Crockford's Clerical Directory
, 1858
ff
;
-
Yr Haul
,
1902
, 149;
-
Aberystwyth Observer
,
9 Ebrill 1896
;
-
Hardy
,
Jesus College
, 1899
;
- S. David's diocesan records yn Ll.G.C.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth