Bu'n eithriadol boblogaidd fel pregethwr ; o dan ei weinidogaeth cynyddodd aelodaeth Stamford Hill o 355 i 1,055. Yr oedd yn aelod amlwg o glwb Caleb Morris yn Llundain , a pharhaodd yn Gymro twymgalon ar hyd ei oes. Etholwyd ef yn aelod o'r comisiwn ar ‘The Church of England and other Religious Bodies in Wales and Monmouthshire’ ( 1910 ). Gwrthododd arwyddo'r adroddiad, ac ar gais Cyngor yr Eglwysi Rhyddion drwy F. B. Meyer cyhoeddodd lyfr i egluro ei safbwynt: Weighed in the Balance: The Case for Welsh Disestablishment , gyda rhagair gan D. Lloyd George , 1910 . Bu'n gadeirydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru ( 1913-4 ). Cyhoeddodd: The Epistle to the Galatians , 1895 ; The Children's Tear ; The Fatherhood of God ; The Disciples' Prayer .
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor