Cofir Frimston yn arbennig am ei waith ymchwil ar hanes ei enwad , megis Ebenezer: Hanes Eglwys Fedyddiedig Llangefni , 1897 ; Canrif o Ymdrechion Bedyddwyr Môn , 1902 ; ac amryw o erthyglau yng nghylchgronau'r enwad, yn bennaf ar ‘ Bedyddwyr Sir Fflint ’ yn Y Greal , 1907-10 , 1917 , a Seren Gomer , 1921 , 1923-4 , ac ar ‘ Bedyddwyr Môn ’ yn Seren Gomer , 1925-6 . Cyhoeddwyd amryw eraill o'i weithiau, megis Y Cyssonydd Ysgrythyrol , 1885 ; Crefydd ym Mhlwyf Rhiwabon , 1890 ; Ofergoelion yr Hen Gymry (d.d.); a Holwyddoreg Ysgrythyrol (d.d.); ac ymddengys ei enw ymhlith awduron Y Gwyddoniadur Cymreig . Enillodd hefyd ddwy wobr am draethodau yn yr eisteddfod genedlaethol — yn y Rhyl ( 1892 ) ar ‘ Hynafiaethau Sir Fflint ,’ ac ym Mhontypridd ( 1893 ), ar ‘ Y Cymry a ymfudodd ac a gododd i enwogrwydd yn yr America a'r Taleithiau Prydeinig .’ Bu'n ysgrifennydd Cymdeithas Lyfrau Bedyddwyr Cymru , ac yn llywydd cymanfaoedd Môn ( 1897 ) a Dinbych , Fflint , a Meirion ( 1926 ).
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth