FRANCIS
,
EDMUND
(
1768
-
1831
),
gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd
;
gŵr o
Fôn
, gellid meddwl, oblegid bedyddiwyd ei fam,
Lydia
Francis
, yn
Amlwch
, ac yno hefyd (
8 Hydref 1786
) y bedyddiwyd yntau. Cyn
1790
yr oedd wedi dechrau
pregethu
, ac ar
1 Rhagfyr 1795
urddwyd ef yn gynorthwywr i
Christmas
Evans
, a oedd ar y pryd yn coleddu
Sandemaniaeth
. Glynodd
Edmund
Francis
wrth y golygiadau hynny weddill ei oes. Symudodd i
Gaernarfon
yn
1799
, yn
glerc
i
Richard
Roberts
,
masnachwr mewn llechi
a pherchennog
chwarel y Cilgwyn
, yntau'n
Fedyddiwr Albanaidd
. Ar f.
Roberts
(
1815
) agorodd
Francis
fusnes ŷd a blawd
, ac yr oedd hefyd yn gweithredu dros
waith copr Drws-y-coed
. Yn
1801
, neu'n fuan wedyn, yr oedd wedi sefydlu eglwysi i'r
Bedyddwyr Albanaidd
yng
Nghaernarfon
a
Llanllyfni
, ac yn fugail arnynt. Yr oedd yn
llenor
da, ac yn gyfaill i
‘
Robert ap Gwilym Ddu
’
; canodd hwnnw englynion coffa iddo.
Francis
a gwplaodd y gwaith o ddwyn allan emyniadur
J. R.
Jones
o
Ramoth
; ac yn
1829
cyhoeddodd gyfieithiadau o dri o weithiau
Archibald
McLean
. Bu f. yn
Rhagfyr 1831
— ar y pumed, meddai carreg ei fedd yn
Llanllyfni
, ar yr wythfed yn ôl llyfr eglwys
Ramoth
— yn 63 oed. Daeth ŵyres iddo'n wraig i'r
hanesydd
Alfred Neobard
Palmer
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru
,
1893–1907
, iii, 283-5, 359;
-
J. D. Davies
yn
Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr
Cymru
,
1940
, 32-6.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor