Dangosodd ei allu fel arlunydd yn ieuanc, ac yn enwedig ei ddawn i bortreadu pobl . Wedi gweithio yng Nghymru am beth amser, symudodd i Lundain , a daeth i gysylltiad agos â Dickens , Thackeray , Ruskin , a llenorion enwog eraill, ac ef oedd un o sylfaenwyr clwb adnabyddus, ‘ The Savage Club ,’ canolfan i'r sawl a ymddiddora mewn llenyddiaeth a chelfyddyd. Gwnaeth ddarluniau o'r frenhines Buddug , Syr Robert Peel , ac enwogion eraill, ac ysgythrwyd amryw ohonynt. Dangoswyd un darlun o'i waith yn arddangosfa'r Academi Frenhinol yn 1846 , a dangoswyd amryw o'i weithiau mewn gwahanol arddangosfeydd rhwng 1837 a 1860 .
Saif ‘ Oriel Deffett Francis ’ yn Abertawe heddiw fel tystiolaeth o'i ddiwydrwydd fel casglwr celfyddwaith . Cedwir yno'r casgliad niferus o ddarluniau ac ysgythriadau o bob math a gyflwynwyd yn rhodd ganddo i gorfforaeth Abertawe , ynghyd â'i gasgliad gwerthfawr o lyfrau ar gelfyddyd. Cyflwynodd Francis rodd debyg hefyd i'r Amgueddfa Brydeinig . Bu f. yn Abertawe 21 Chwefror 1901 .
Miss Megan Ellis, (1906-2001), Aberystwyth