FRANCIS, BENJAMIN (1734 - 1799), emynydd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Benjamin Francis
Dyddiad geni: 1734
Dyddiad marw: 1799
Rhiant: Mary Francis (née Evans)
Rhiant: Enoch Francis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Mhen-y-gelli ger Castellnewydd Emlyn, plentyn ieuengaf Enoch Francis. Gan i'w rieni farw pan nad oedd ef ond 6 oed, magwyd ef yn Abertawe, ac yno (1749) y bedyddiwyd ef. Aeth yn 1753 i academi'r Bedyddwyr ym Mryste, ac ar ddiwedd 1755 gwahoddwyd ef i fod yn weinidog (cynorthwyol) yn Broadmead. Symudodd yn 1756 i Chipping Sodbury, ac oddi yno (1759) i Horsley, lle y bu farw 14 Rhagfyr 1799.

Er bwrw cymaint o'i oes yn Lloegr (a phrydyddu hefyd yn Saesneg), glynodd Benjamin Francis wrth ei Gymraeg. Byddai'n mynychu'r gymanfa, a phregethodd bedair gwaith ar ddeg iddi. Cyhoeddodd ddau gasgliad (1774 , 1786 ) o emynau Cymraeg, ill dau'n dwyn y teitl Aleliwia. Efallai mai ar y mesur salm y canai'n fwyaf effeithiol; y gŵyn gyffredin yw bod ei emynau'n orgynganeddol, eto delir hyd heddiw i ganu amryw ohonynt. Enwir marwnadau a cherddi Cymraeg eraill o'i waith gan Charles Ashton, 406.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.