FOULKES, WILLIAM (bu farw 1691), clerigwr ac awdur

Enw: William Foulkes
Dyddiad marw: 1691
Plentyn: William Foulkes
Rhiant: John Foulkes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Griffith Milwyn Griffiths

Mab i glerigwr (o'r enw John Foulkes, meddai Ashton. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1650 (ni roddir ei oedran), a graddiodd yn 1653. Yr oedd yn rheithor segur y Cwm (ger Rhuddlan) yn 1660-1, yn rheithor Llanfyllin (a Llanbrynmair hefyd) 1661-91, gyda Llanfihangel-yng-Ngwynfa o 1680, ac yn ganon yn Llanelwy o 1662 ymlaen. Bu farw yn Llanfyllin ddechrau 1691 - claddwyd 9 Ionawr. Yn 1685, golygodd a chyhoeddodd Gweddi'r Arglwydd wedi ei hegluro, gwaith yr esgob George Griffith; ac yn 1688 gyfieithiad, Esponiad ar Gatecism yr Eglwys, gwaith yr esgob Ken.

Mab iddo oedd WILLAM FOULKES, a raddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1699 (B.C.L. 1705, D.C.L. 1707). Ceir yr enw 'Gul. Fowkes LL.D. e coll Iesu' ar ôl darn o farddoniaeth yr yr atodiad i Cardiff MS. 26.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.