FOULKES, ROBERT (1743 - 1841), cerddor

Enw: Robert Foulkes
Dyddiad geni: 1743
Dyddiad marw: 1841
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Brodor o Lanelwy a gwydrwr wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn enwog fel canwr gyda'r tannau, ac ef a farnwyd yn orau o 18 yn eisteddfod Caerwys, 1798, fel y dengys y cofnod canlynol: 'Yna cymerodd yr ymryson le rhwng y datgeiniaid, ac ar ôl maith ymryson, penderfynodd y beirniaid mai Robert Foulkes, y gwydrwr o Lanelwy, oedd fuddugol fel Pencerdd Cerdd Dafawd.'

Bu farw 24 Rhagfyr 1841.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.