FITZGERALD
,
DAVID
(bu. f.
1176
),
esgob Tyddewi, 1148-76
;
mab i
Gerald de
Windsor
a
Nest
, ferch
Rhys ap Tewdwr
, ac ewythr i
Gerallt Gymro
[q.v.]
. Clywir gyntaf amdano fel
archddiacon Ceredigion
a
chanon Tyddewi
. Ar ôl marw'r
esgob
Bernard
bu anghydfod rhwng y
canonwyr
Cymreig
ar y naill law a'r rhai
Seisnig
a
Ffrengig
ar y llaw arall, y naill rai o blaid cael
esgob
o
Gymro
a'r lleill yn erbyn hynny. Cafwyd cyfaddawd drwy ethol
David
, gan ei fod o linach
Gymreig
a
Normanaidd
. Fe'i cysegrwyd yn
esgob
gan yr
archesgob
Theobald
ar
19 Rhagfyr 1148
yng
Nghaergaint
, ac addawodd gydnabod awdurdod
Caergaint
fel mam-eglwys dros
Dyddewi
. Ar
3 Mehefin 1162
cymerodd ran — gyda
Nicholas
,
esgob Llandaf
— yng nghysegriad
Thomas
,
archesgob Caergaint
, ac ar
19 Mai 1163
yr oedd yn bresennol yn y cyngor a alwasai'r
pab
Alexander
III
yn
Tours
, gan godi treth ar y
clerigwyr
at dreuliau ei siwrnai. Rywbryd rhwng
1148
ac
1163
bu dadl rhyngddo ac
esgob Llandaf
ynglŷn â ffiniau, a chynigiodd
Gilbert
,
esgob Henffordd
, ei wasanaeth fel
barnwr
rhyngddynt. Ar
30 Ionawr 1164
arwyddodd
gyfansoddiadau Clarendon
. Yn
1167
perswadiodd yr
arglwydd
Rhys ap Gruffudd
i ryddhau ei hanner-brawd
Robert
Fitz Stephen
ar ôl ei garcharu am dair blynedd. Pan ddaeth
Harri
II
ar bererindod i
Dyddewi
tua dechrau
Hydref 1171
gwahoddodd yr
esgob
ef i aros gydag ef; gwrthododd y
brenin
hynny, ond ciniawodd gydag ef. Rhwng
Hydref 1171 ac Ebrill 1172
rhoes y
brenin
siartr i'r
esgob
yn cadarnhau ei holl feddiannau yn ôl siartr
Harri
I
i'r
esgob
Bernard
. Ar
18 Mai 1175
bu yng nghyngor
Richard
,
archesgob Caergaint
, yn
Llundain
gerbron
Harri
II
a'i fab
Harri
. Tua'r un adeg aeth dirprwyaeth o
ganonwyr
Tyddewi
i
Lundain
i osod 27 o gyhuddiadau yn erbyn eu hesgob gerbron yr
archesgob
Thomas
, ond cyfarfu
David
FitzGerald
â hwy cyn iddynt fynd o flaen yr
archesgob
ac ymbil arnynt beidio â mynd â'r mater ymhellach, gan addo dychwelyd iddynt bopeth a ddygasai oddi arnynt. Yn yr un flwyddyn gorffennodd drosglwyddo eglwys
Llanbadarn-fawr
,
sir Aberteifi
, i
abaty S. Pedr
,
Caerloyw
. Ar
14 Mawrth 1176
aeth rhai o ganonwyr
Tyddewi
i gyngor
Hugh
,
cardinal S. Angelo
a
legat
yn
Lloegr
, i ddadlau hawl
Tyddewi
i fod yn eisteddfa archesgobol, hawl yr oedd yr
esgob
wedi'i gwadu ar ei gysegriad. Ar
8 Mai 1176
bu f. o
dwymyn
, heb wneud ewyllys, ac fe'i claddwyd yn
Nhyddewi
. Daeth
Peter de
Leia
yn
esgob
ar ei ôl.
Ar y cyfan ceir darlun ffafriol ohono gan ei nai
Gerallt Gymro
, er ei fod yn beirniadu peth arno am beidio ag amddiffyn hen hawliau
Tyddewi
. Yn ei ‘Fuchedd’ (gwaith un o'r
canonwyr
, y mae'n debyg) ceir darlun llai ffafriol.
Llyfryddiaeth:
-
Vita Davidis
, ii (
Giraldus Cambrensis
mewn wyth cyfrol sy'n
cynnwys ; ; ;
; ; ; ;
a
, Llundain Longman, 1861-91
iii, App. 2);
-
Giraldus Cambrensis
,
De Jure et Statu
(
mewn wyth cyfrol sy'n
cynnwys ; ; ;
; ; ; ;
a
, Llundain Longman, 1861-91
iii, 154-5),
De Rebus a se Gestis
(ibid., i, 40-1),
Expugnatio Hibernica
(ibid., v, 229);
-
J. Conway Davies
,
Episcopal acts and cognate documents
relating to Welsh dioceses 1066-1272
, 1946-48
, i, 270 ff.;
-
Menevia Sacra. Arch. Camb.
, Supplement,
1927
, 38-9;
-
Henry Thomas Payne
,
(Ll.G.C. / N.L.W.)
(N.L.W.).
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones, D.Litt., Aberystwyth