FISHER
,
JOHN
(
1862
-
1930
),
ysgolhaig Cymraeg
;
g.
5 Ionawr 1862
, mab hynaf
Edward
a
Mary
Fisher
,
Cilcoll
,
Llandebie
. Addysgwyd ef yn
Ysgol Genedlaethol Llandebie
,
Talybont
(
Pontardulais
),
ysgol Llanymddyfri
, ac yng
Ngholeg Dewi Sant
,
Llanbedr
, lle y graddiodd yn
B.A.
yn
1884
a
B.D.
yn
1891
, a lle y derbyniasai ysgoloriaeth a gwobrau. Ordeiniwyd ef yn
ddiacon
yn
1885
, ac yn
offeiriad
yn
1886
, a bu'n
gurad
ym
Mhontbleiddyn
,
Llanllwchaearn
, a
Rhuthyn
, yn
esgobaeth Llanelwy
. Ei unig fywoliaeth oedd
rheithoraeth
Cefn Meiriadog
a dderbyniodd yn
1901
. Yr un flwyddyn daeth yn
llyfrgellydd
llyfrgell
eglwys gadeiriol Llanelwy
; gwnaeth gatalog (mewn llawysgrif) o lyfrau'r llyfrgell honno. Penodwyd ef yn
ganon
yn
1916
, ac yn
ganghellor yr eglwys gadeiriol
yn
1927
. Gwnaed ef yn
gaplan arholi yn Gymraeg
i'r
archesgob
Edwards
yn
1921
. Daliasai y swydd o
arholwr mewn Cymraeg
yng
Ngholeg Llanbedr
o
1905 hyd 1909
. Yn
1917
etholwyd ef yn aelod o
Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru
. Ymunodd â'r ‘
Cambrian Archaeological Association
’ yn
1899
, ac yn
1914
dilynodd y
canon
R. Trevor
Owen
yn
ysgrifennydd cyffredinol
. Am ysbaid yn ystod y
rhyfel mawr cyntaf
gweithredodd fel
golygydd
yn ogystal. Yn
1917
rhoes y swydd flaenaf heibio, ond parhaodd yn
olygydd
Archaeologia Cambrensis
hyd
1925
, pryd y daeth yn un o'r
is-lywyddion
. Ei brif waith llenyddol, y llafuriodd arno gyda
S.
Baring Gould
, oedd
The Lives of British Saints
(pedair cyfrol), a gyhoeddwyd gan
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
,
1907-13
. Golygasai yn flaenorol
lawysgrifau Cefn Coch
,
1899
. Yn ddiweddarach
golygodd
Tours in Wales
(
R.
Fenton
) dros y ‘
Cambrian Archaeological Association
,’
1917
,
Allwydd Paradwys
,
1930
, a
Kynniver Llith a Ban
,
1931
. Rhai o'i gyfraniadau i
Arch. Camb.
oedd ‘
The Religious and Social Life of former days in the Vale of Clwyd
,’
1906
, ‘
Some Place-names in the locality of St. Asaph
,’
1914
, ‘
Wales in the time of Queen Elizabeth
,’ ‘
The Wonders of Wales
,’
1915
, ‘
Two Welsh Wills
,’
1919
, ‘
The Welsh Celtic Bells
,’ ‘
Bardsey Island and its Saints
,’
1926
. Etholwyd ef yn
F.S.A.
yn
1918
, a chyflwynwyd iddo y radd o
D.Litt.
gan
Brifysgol Cymru
yn
1920
. Penodwyd ef hefyd yn aelod o'r ‘
Royal Commission on Ancient Monuments (Wales)
.’ Gwasanaethodd fel cynrychiolydd y ‘
Cambrian Archaeological Association
’ ar
lys llywodraethwyr Prifysgol Cymru
ac ar
Fwrdd y Gwybodau Celtaidd
; yr oedd hefyd yn
aelod o lys llywodraethwyr a chyngor
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Bu f.
9 Mai 1930
, a chladdwyd ef ym mynwent
eglwys gadeiriol Llanelwy
.
Llyfryddiaeth:
-
Archaeologia Cambrensis
,
1930
, 225-6;
-
Yr Haul
,
1930
, 172-4.
Awdur:
Y Canon Ellis Davies, M.A., F.S.A., (1872-1962), Caerwys