Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FFINIAN , sant ( fl. yn y 6ed g. ). Y mae dwy fersiwn o ‘Fuchedd’ Ffinian yn fwy eu pwys na'r fersiynau eraill sydd ar gadw. Cynhwysir y naill yn Acta SS. Hiberniae Colgan , a cheir y llall, sef cyfieithiad Gwyddeleg sydd yn llawnach na'r cyntaf ond er hynny yn ddiweddarach o ran amser, yn y ‘ Book of Lismore .’ Gwyddel oedd Ffinian , ac yn Iwerddon y gwnaeth ei brif waith. Ei brif sefydliad yno oedd mynachlog Clonard . Dywed y ‘Fuchedd’ er hynny mai yng Nghymru y derbyniodd Ffinian ei addysg a'i hyfforddiant. Pan yn 30 oed, daeth Ffinian drosodd i Hen Fynyw lle y cyfarfu â thri o saint Cymru , Dewi , Gildas , a Chathmael , a'r ddau gyntaf ohonynt yn ymryson â'i gilydd yr adeg honno am arweinyddiaeth Cymru . Torrodd Ffinian y ddadl yn ffafr Dewi Sant . Dywedir iddo aros gyda'r henuriaid Prydeinig am 30 mlynedd, ac yn y cyfnod hwnnw iddo gyflawni llawer o wyrthiau , ac iddo hefyd gynorthwyo i droi yn ôl oresgyniad a wnaed gan y Saeson . Y mae'r ystori a geir ym ‘Muchedd’ Cadog yn gwahaniaethu oddi wrth hanes ‘Buchedd’ Ffinian . Dywed honno i Gadog ddwyn yn ôl gydag ef o Iwerddon y tri sant Ffinian , Macmoil , a Gnafan . Bu'r tri yn fyfyrwyr yn Llancarfan , a gwnaethant lawer o wyrthiau yno. Dengys y ddau hanes mor gyfeillgar oedd y berthynas draddodiadol a fodolai rhwng Cymru ac Iwerddon yn oes y seintiau. Dethlir dydd gŵyl Ffinian fel rheol ar 12 Rhagfyr , ond nodir 23 Chwefror hefyd mewn rhai calendrau.

Llyfryddiaeth:

  • The Lives of the British Saints , ii, 30-7;
  • Colgan , Acta Sanctorum Hiberniae . Irish MSS. Commission, 1947 (Irish MSS. Comm., 1947 ), 393-9;
  • Stokes , Lives of Saints from the Book of Lismore , 1890 , 75-83, 222-30;
  • J. F. Kenney , The sources for the early history of Ireland an introduction and guide , 1929 , i, 375-6.

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth