Yn 1535 , aeth gyda William Barlow [q.v.] fel llysgennad i'r Alban . Penodwyd ef wedyn yn Brior Nostell , swydd Efrog , mewn pryd i drosglwyddo'r priordy i'r brenin , 20 Tachwedd 1540 , pan gafodd bensiwn o £80. Gan ei fod yn ddiwygiwr blaenllaw ac yn ffefryn gyda Somerset , fe'i gwnaethpwyd yn bregethwr ac ymwelydd brenhinol yn 1547 . Ei gysegriad ef yn esgob Tyddewi , 9 Medi 1548 , oedd y cyntaf yn ôl y ffurf-wasanaeth Saesneg . Aeth yn gynnen gas rhyngddo a phlaid ddylanwadol ymhlith y canoniaid, a fanteisiodd ar gwymp Somerset i gyflwyno rhestr o gyhuddiadau difrifol yn erbyn un o'i garedigion.
Pan ddaeth Mari i'r orsedd, carcharwyd Ferrar yn Southwark . Ym mis Mawrth 1554 , difuddiwyd ef o'i esgobaeth am ei heresi a'i briodas. Ar ôl bwhwman peth, gwrolwyd ef gan Bradford a charcharorion Protestannaidd eraill, a gwrthododd ddatgyffesu pan arholwyd ef gan yr esgob Gardiner a dirprwywyr eraill ym mis Chwefror 1555 . Yna dygwyd ef o flaen ei olynydd, Henry Morgan [q.v.] , yng Nghaerfyrddin . Daliai i wrthod gwadu'i ffydd, ac aeth â chryn ddewrder i'w losgi ar sgwâr marchnad Caerfyrddin 30 Mawrth 1555 .
Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe