Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



FARRINGTON , RICHARD ( 1702 - 1772 ), offeiriad a hynafiaethydd ; mab Robert Farrington , Caerlleon , ac Elisabeth ( Jones ) , Cefn Ysgwyd , Llechylched , Mân . Yn 1720 aeth i Goleg Iesu , Rhydychen , lle y graddiodd yn B.A. yn 1724 ; yn ddilynol cymerodd ei M.A. Penodwyd ef yn gurad Gresford , ac yn ddilynol cafodd guradiaeth Bromfield . Yn 1739 cafodd swydd ynglŷ'n ag eglwys gadeiriol Llanelwy , a dwy flynedd yn ddiweddarach derbyniodd ficeriaeth Llanwnda gyda Llanfaglan , a gwnaeth ei drigfan yn y Dinas . Yn 1742 rhoed iddo reithoriaeth Llangybi , ac 20 mlynedd yn ddiweddarach gwnaed ef yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor . Priododd ddwywaith, (1) Mary , merch Richard Ellis a Mary ( Barker ) , Cheltenham (bu hi f. yn 1750 ), a (2) Eleanor Richardson , Caer . Bu iddo bedwar o blant o'r briodas gyntaf — Mary , a briododd William Bridge , Eglwys-bach , Elisabeth , Richard (bu f. 1750 ), a Roger (bu f. yn blentyn). Erys hiliogaeth William a Mary Bridge eto. Yn 1742 cyhoeddodd Farrington gyfrol o bregethau, Twenty Sermons by R. Farrington . Ar gyfrif ei ymroddiad i'w ddyletswyddau enillodd barch mawr ymysg ei blwyfolion, a cheir praw o'i ofal am ei ddeiliaid yn y nifer mawr o ysgolion cylchynol a sicrhaodd i wahanol rannau ei ofalaeth. Ymddiddorodd hefyd yn hynafiaethau sir Gaernarfon , a chydag ef y lletyai Thomas Pennant [q.v.] yn ystod ei ymweliad â'r fro. Ysgrifennodd Farrington dair cyfrol sydd o ddiddordeb hynafiaethol — ‘ Numismata Dinlleana ,’ ‘ The Druid Monuments of Snowdonia ,’ a ‘ Celtic Antiquities of Snowden ’ — y mae'r cyfrolau hyn mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol . Trwy ei gysylltiad â theulu Richardson , Caer , daeth Farrington yn gyfrannog ym mwynfeydd copr Drws-y-coed , y Felenrhyd , Nant Conwy , etc. Ym mis Awst 1772 ymddeolodd o'i fywiolaethau yn sir Gaernarfon , a symudodd i Bath , lle y bu f. 16 Hydref .

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 362;
  • Journal of the Welsh Bibliographical Society , v, 16-32, 241-2;
  • cofiant llsgr., gan W. Gilbert Williams , yn Ll.G.C.;
  • cofrestri plwyf Llanwnda;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1118, 1119, 1987, 10914, 12355.

Awdur:

William Gilbert Williams, M.A., (1874-1966), Rhostryfan