EVANS, EVAN WILLIAM (1860 - 1925), cyhoeddwr a golygydd

Enw: Evan William Evans
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1925
Priod: Annie Evans (née Roberts)
Priod: Ellen Evans (née Rees)
Rhiant: Jane Evans (née Roberts)
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr a golygydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 7 Hydref 1860 yn Cae Einion, Dolgellau, mab David Evans a Jane (Roberts). Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Dolgellau, ac yna aeth i wasanaethu yn swyddfa Yr Herald yng Nghaernarfon. Wedi i'r Goleuad, newyddiadur, gael ei symud o Gaernarfon i Ddolgellau i gael ei argraffu, dychwelodd Evans i Ddolgellau. Ymhen ychydig, ac yntau eto'n ddyn ifanc, daeth y swyddfa lle'r argreffid y papur hwn yn eiddo i Evans a gwnaeth yntau drefniant gyda chwmni'r papur i'w gyhoeddi a'i olygu; gwnaeth hynny o 5 Gorffennaf 1884 hyd 26 Mehefin 1914. Ar 1 Gorffennaf 1914 dechreuodd olygu, argraffu, a chyhoeddi ei newyddiadur Cymraeg wythnosol ei hun, Y Cymro. Argraffwyd papurau a chyfnodolion eraill yn swyddfa Evans o bryd i bryd - The Merionethshire News, 1888; Y Lladmerydd, 1885-?; Cymru Fydd, 1885; Y Gymraes, 1896; Y Lion, Yr Haul, Y Ddolen. Cyhoeddwyd llyfrau hefyd gan E. W. Evans yn Nolgellau - yn eu plith R. Prys Morris, Cantref Meirionydd, 1890. Priododd (1) Ellen Rees, a (2) Annie, merch Joseph Roberts, Dolgellau. Cymerai ddiddordeb mawr mewn hanes lleol, gan gynnwys hanes Methodistiaeth Galfinaidd, a chynullodd lawer o ddefnyddiau mewn llawysgrif, etc. Trosglwyddwyd y rhain yn 1929 i'r Llyfrgell Genedlaethol; gweler manylion am y Frondirion MSS., fel y'i gelwir, yn N.L.W. Handlist of MSS., ii, 154-7 (yn eu plith y mae rhai pethau a gynullasid gan T. Mordaf Pierce, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanidloes a Dolgellau). Bu Evans farw 28 Hydref 1925.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.