EVANS, HENRY WILLIAM (1840 - 1919), arweinydd llafur, ac awdur

Enw: Henry William Evans
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1919
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd llafur, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd 2 Ebrill 1840 yn Pwllyglaw, Cwmafan, Sir Forgannwg. Cafodd ei addysg yn Penycae, Pontrhydyfen, ac aeth i weithio mewn glofa. Yn 1860 symudodd i Aberdâr; dechreuodd bregethu yno gyda'r Annibynwyr, a daeth yn ddarlithydd cyhoeddus, yn arweinydd llafur, ac yn gefnogwr gwaharddiad ynglŷn â diodydd meddwol. Ymfudodd i Pittston, Pennsylvania, 1864. Daeth yn arweinydd yn undeb y glowyr. Yn 1867, gydag un arall, cychwynnodd Baner America, a unwyd â'r Drych 10 mlynedd yn ddiweddarach. Ysgrifennai i gyfnodolion ar bynciau gwleidyddol (yn enwedig o safbwynt y llafurwr), economyddol, ac ariannol, ac ar gwestiwn gwaharddiad. Cyhoeddodd The Millenium of Money, 1901, gydag argraffiad Cymraeg, Milflwyddiant Arian, yr un flwyddyn. Bu'n ceisio fwy nag unwaith gael ei ddewis i rai o swyddi'r sir y trigai ynddi; bu hefyd yn hyrwyddo eisteddfodau yn Pittston rhwng 1864 ac 1873. Bu farw 29 Mai 1919.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.