EVANS, WILLIAM ('Cawr Cynon '; 1808 - 1860), swyddog mwynawl a bardd

Enw: William Evans
Ffugenw: Cawr Cynon
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1860
Rhiant: Richard Morgan Dafydd Evan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog mwynawl a bardd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Watkin William Price

Ganwyd mewn bwthyn gerllaw pont haearn Ynysgau, Merthyr Tydfil, yn fab i Richard Morgan Dafydd Evan, mwynwr a meddyg gwlad. Aeth William yn fwynwr hefyd. Astudiodd y cynganeddion, ac yn gynnar yn ei oes enillodd wobr am bum englyn ar farw Richard Jones, tafarndy'r Lamb. Cystadleuai'n aml yn eisteddfodau lleol y Cymmrodorion, ' Yr Alarch,' y ' March Gwyn,' etc., gan ysgrifennu cywyddau ac englynion ar destunau megis elusengarwch, balchder, bryniau Cymru, etc. Cafodd wobr hefyd yn eisteddfod y Fenni, 23 Tachwedd 1836, am draethawd ar hanes Caerlleon-ar-Wysg. Canodd englynion ar achlysur geni mab i Syr John a'r Arglwyddes Charlotte Guest; plesiodd hyn yr arglwyddes ac fe gafodd y bardd le fel pennaeth ar rai dynion yng ngwaith Dowlais. Wedi hynny bu'n swyddog mwnawl yng ngwaith Plymouth (Anthony Hill). Bu farw 15 Tachwedd 1860, ac fe'i claddwyd yng nghladdfa Cefn Coed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.