EVANS
,
WILLIAM
(
1795
-
1891
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
;
g.
30 Mehefin 1795
, yn
Garthgraban-fach
,
Llantrisant
,
Morgannwg
, mab
David
ac
Elizabeth
Evans
. Addysgwyd ef yn
Ysgol yr Eryr
yn
y Bontfaen
. Cafodd argyhoeddiad yn
1814
dan weinidogaeth y
Parch.
Evan
Jones
,
Merthyr Tydfil
, ac ymaelododd â'r
Methodistiaid
yn
Nhonyrefail
. Priododd yr un flwyddyn
Margaret
Cadwgan
o
Landyfodwg
, ac ymsefydlodd y ddau yng
Nghae'r Curlas Uchaf
. Dechreuodd
bregethu
yn
1818
, ac ordeiniwyd ef yn
sasiwn Aberteifi
,
1825
. Teithiodd a phregethodd dros
Gymru
oll ar hyd ei oes faith, a hoffid ef yn fawr ar gyfrif pertrwydd ei sylwadau a gloywder ei ddoniau. ‘
Cloch arian Tonyrefail
’ y gelwid ef gan ei gyfoeswyr. Ef ac
Edward
Matthews
,
Ewenni
[q.v.]
a ledaenodd
Fethodistiaeth
ym
Morgannwg
yn nyddiau'r cynnydd mawr ym mhoblogaeth y sir. Pregethodd yn agoriad y rhan fwyaf o'r capeli newyddion a godid. Bu f.
14 Chwefror 1891
, a chladdwyd ef ym mynwent
Tonyrefail
. Ysgrifennwyd ei gofiant gan ei ŵyr,
William
Evans
,
Doc Penfro
[q.v.]
. Gorŵyres iddo ydoedd
Clara Novello
Davies
,
cantores
.
Llyfryddiaeth:
-
W. Evans
,
Cofiant y parchedig William Evans,
Tonyrefail, yn cynwys ei gynghorion gweinidogaethol,
areithiau dirwestol, Ilythyrau, a nifeer o bregethau, gan
ei wyr
, 1892
,
1892
;
-
Thomas Morgan
,
Hanes Tonyrefail adgofion am y lle a'r hen
bobl
, 1899
, 13-20.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe