EVANS, WILLIAM (fl. 1768-1776), geiriadurwr

Enw: William Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: geiriadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Tybir ei fod o Cefngwili, plwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin - ar hyn gweler gohebiaeth yn Yr Ymofynydd, Rhagfyr 1887, 268-70 , 275-6 , Ionawr 1888, 19-20 , a Chwefror 1888 43-4 . Dywed W. D. Jeremy i Evans fod yn efrydydd yn academi Caerfyrddin, 1767-72. Pan oedd yno cyhoeddwyd ganddo A new English-Welsh dictionary … (Carmarthen, 1771).

Bu'n gofalu am eglwys Bresbyteraidd yn Sherborne, Dorset, am beth amser. Yn 1776, fodd bynnag, oblegid bod ei iechyd yn gwanychu, symudodd i ofalu am eglwys yn Moreton-Hampstead, Dyfnaint, eithr tybir iddo farw yn fuan ar ôl symud yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.