EVANS
,
WILLIAM
(
1716
-
1770
),
gweinidog Annibynnol
;
g. yn
Ystradgynlais
,
1716
. Daeth yn aelod yng
Nghwmllynfell
yn 18 oed. Bu'n briod ddwy waith; drwy ei ail wraig daeth i amgylchiadau cysurus fel
amaethwr
ym mhlwyf
Llangiwc
. Trwyddedwyd ef i
bregethu
ar gais eglwys
Cwmllynfell
,
5 Ebrill 1751
. Bu'n
weinidog
Cwm Mawr
a
Rhydymaerdy
, plwyf
Llanrhidian
,
Gŵyr
,
1754-70
. Daeth
Rhydymaerdy
yn ganolfan eglwysig pwysig dan ei weinidogaeth. Cynhelid cyfarfodydd gweinidogion o
Dde a Gogledd Cymru
yn achlysurol yno; y cyfarfodydd hyn oedd blaenffrwyth
cyfarfod chwarter yr Annibynwyr Cymraeg
. Yng nghyfarfod
10 a 11 Mehefin 1761
yn
Rhydymaerdy
,
‘lle y mae'r duwiol William Evans yn weinidog,’
y derbyniwyd
John
Thomas
(
Rhaeadr Gwy
) [q.v.]
i
gyfundeb yr Annibynwyr
o
gyfundeb y Methodistiaid
. Yr oedd yn un o'r 18 gweinidogion amlwg a arwyddodd
A Vindication of the Conduct of the Associated Ministers in Wales
, a gyhoeddwyd yn
1771
— datganiad y
gweinidogion Calfinaidd
cymedrol. Bu'n
weinidog
ei fam-eglwys,
Cwmllynfell
,
1767-70
. Daeth yno wedi'r frwydr fawr rhwng
Arminiaeth
a
Chalfiniaeth
, a'r rhwyg rhwng
Cwmllynfell
a
Gellionnen
. Ychwanegodd dros 150 o aelodau at yr eglwys yng
Nghwmllynfell
yn ystod y tair blynedd y bu yno.
Calfin cymedrol
ydoedd yn ei ddiwinyddiaeth, efengylydd eneiniedig yn ei bregethu. Bu f,
24 Ebrill 1770
, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys
Llangiwc
lle y gwelir ei garreg fedd hyd heddiw.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, ii, 27-9, 144;
-
Hanes Eglwys Cwmllynfell
, , a
, 1935
, 17-21;
-
Rhad Ras
, 1810; arg. arall., 1949
, 95;
-
Y Cofiadur
.
Awdur:
Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth