EVANS, ROBERT TROGWY (1824 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Robert Trogwy Evans
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1901
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd ym mhlwyf Trefeglwys, sir Fôn. Fe'i trwyddedwyd i bregethu yn 1849 a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Bala o dan Michael Jones (yr hynaf). Bu'n fugail eglwys Annibynnol Gymraeg yn Manchester; ordeiniwyd ef yno 12 Medi 1853. Wedi bod yno am bedair blynedd aeth yn weinidog ar eglwys yn Greenfield, Sir y Fflint. Ymfudodd i U.D.A. yn 1870; yno bu'n weinidog yn Remsen, talaith New York, gan ddilyn Morris Roberts, ac ar ôl aros yno am 11 mlynedd aeth i Oskosh, Wisconsin, yn 1881, i weinidogaethu. Cyhoeddodd Myvyrdodydd Ieuanc (llyfr ar ddirwest), Y Ddiwioleg (Utica, 1873), cân faith iawn, Marwnadau … Robert Everett … a Morris Roberts … (Remsen, c. 1878), a Y Bedydd Cristionogol. Bu'n ddadleuwr selog yng Nghymru dros ddirwest ac ysgrifennodd rai caneuon ac emynau dirwestol. Bu farw yn 1901.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.